Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

IV.—COLLI BACHGEN

TRALLODUS iawn yw colli bachgen yn y goedwig neu yn ardal aberoedd. Mwy trallodus yw ei golli ymysg torfeydd anferth Llundain.

Daeth cyfaill i mi, meddyg, i Lundain i'n gweld ni'r milwyr yn dychwelyd o Ddeheudir Affrig. Gydag ef yr oedd pump o gyfeillion, a'i fachgen bach pum mlwydd oed.

Cymerasant eu lle yn Hyde Park i weld y fyddin yn gorymdeithio heibio. Ebe'r meddyg, "Gadewch i ni gyfarfod yn ein gwesty arferol am bedwar o'r gloch, os collwn ein gilydd yn y dyrfa fawr hon." Ni ddacth i'w feddwl y collai ei fachgen.

Yn rhes o bobtu i'r ffordd yr oedd yr heddgeidwaid. Wrth eu cefnau yr oedd y dorf fawr, mor dynn yn eu gilydd fel nas gallasai neb symyd cam. Felly y buont am oriau, yn disgwyl i'r milwyr ddod. 'Toc, clywid y seindorf, ac aeth yr orymdaith heibio. Yna, pwysodd y dorf ar yr heddgeidwaid, a bu ymwthio gwyllt ar ol y milwyr. Yn y tyndra a'r gwthio, collodd y cyfeillion eu gilydd, a chollodd y meddyg olwg ar ei blentyn bach.