esgid yr angel. Ni chlywn neb yn ateb. Ebe Duw,—"A ei di, Gabriel?" "O Dduw", ebe'r archangel, "yr wyf ger dy fron beunydd mewn purdeb, ac a lychwinaf fi fy ngwynder drwy fynd. i'r ffau huddyglyd erchyll honno?" Tebyg hefyd oedd atebion yr archangylion ereill. O'r diwedd, clywn Dduw yn gofyn,—"A ei di, Mahomed" "O Dduw, myfi yw dy broffwyd. Pe dywedet wrthyf am aros yno, mi a arhoswn yn ol dy air."
Gollyngodd Ali ac Abdul eu cleddyfau i waelod y wain, ac ail adroddasant eu credo,—"Nid oes ond un Duw, a Mahomed yw ei broffwyd."
"Yna," ebai Nathanael, gan anadlu'n rhyddach wedi gweld y cleddyfau wedi eu gweinio, "gwelwn Mahomed yn disgyn i lawr ar ol yr esgid. I lawr, i lawr, i lawr yr ai, nes o'r diwedd gwelwn ef yn ymgolli yn safn uffern. Yr oedd yno, mi welwn, ddôr haearn fawr yn cirias boeth. Pan aeth Mahomed trwyddi, clywn grechwen yn uffern; a chyda thwrf mawr, fe gauodd y ddôr. A chan y sŵn hwnnw deffrowyd fi."
Chwarddodd y ddau erlidiwr wedi deall y dull gymerodd Nathanael i osgoi eu cwestiwn, ac aethant ymaith heb ei niweidio.