dibris, yw dilynwyr Mahomet, plant y rhai a roent ddewis i'r gorchfygedig rhwng marw trwy'r cleddyf a byw i gredu yn eu proffwyd. Y maent hyd heddyw yn ymosod ar epil lwfr, gyfrwys, yr hen Gristionogion.
Un diwrnod, daeth dau Fahometan, Ali ac Abdul, at y Cristion Nathanael.
"Gi o Gristion," ebc Ali, "a wnei di ateb y cwestiwn a roddaf iti? Os na atebi ef, byddi farw."
"Ie, O gi dirmygus," ychwanegai Abdul, "byddi farw oni atebi ef wrth ein bodd."
"Rhynged bodd i'ch anrhydedd," ebe Nathanael, dan grynnu a gostwng ei ben, "mi a'ch atebaf wrth eich bodd hyd eithaf fy ngallu."
"O gi, a yw Mahomet yn y nefoedd?"
Syrthiodd gwedd Nathanael wrth weld y ddau erlidiwr yn dynoethi eu cledd i ddisgwyl am ei ateb. Os dywedai "Ydyw," bradychai ei ffydd; os dywedai "Nac ydyw," byddai farw.
"Rhynged bodd i chwi," ebai ef yn grynedig, "mi a freuddwydiais freuddwyd. Yn fy mreuddwyd gwelwn y nefoedd. Safai amryw angylion a phrofiwydi a seintiau ger bron Duw. Yn eu mysg gwelwn Mahomed."
Gollyngodd Ali ac Abdul eu cleddyfau i lawr at eu hanner i'r wain, a dywedasant yn ddefosiynol,— "Nid oes ond un Duw, a Mahomed yw ei broffwyd.”
"Gyda hynny," ebe'r Cristion, "gwelwn esgid un o'r angylion yn cwympo drwy'r llawr grisial, Gwelwn hi'n mynd i lawr, i lawr, i lawr i'r aflwys obry, nes y gwelwn safn ufíern yn ei llyncu. Yna, clywais Duw'n gofyn pwy ai i lawr i uffern i gyrchu