trwy brawf cyfreithlawn; ni erlidir neb, ymysg y miliynau cymysgliw, am grefydd. Gweriniaeth, gyda brenin yn addurn iddi, ydyw; hi yw gwlad fwyaf gwerinol y byd.
Y mae'r goron yn llawn o'r gemau mwyaf gwerthfawr; nis gellir rhoi pris ar rai ohonynt. Bydd arglwyddi a barwniaid yn gwisgo eu coronau hwythau ar yr un dydd. Y mae'r coronau hyn, hefyd, yn dryfrith o berlau brynnwyd â mawr bris gan lawer cenhedlaeth o'u teulu. Y maent o'r un lun a choron y brenin, a'r perlau o'r un ansawdd, ond eu bod yn llawer llai.
Gwir berlau coron Prydain yw rhyddid, cydraddoldeb gwladol, a goddefiad crefyddol. Fflachia y rhain yng nghoron ein gwlad fel y gwelo yr holl fyd hwy. Ac yn hyn dylai pob deiliad wisgo coron debyg i goron ei frenin,—dylai gredu fod dyn i fod yn rhydd, i feddu yr un hawl a phawb arall yn y wladwriaeth, ac i addoli ei Dduw yn ol ei gydwybod ei hun. Tra bo hyn yn gred inni, ni fachluda haul mawredd a gogoniant Prydain Fawr.
III. BREUDDWYD NATHANAEL
"Os na bydd gryf, bydd gyfrwys," ebe hen ddiareb. Y mae dysgeidiaeth y ddiareb yn ddigon defnyddiol; ond nid yw'n arwrol. Rhaid i'r gwir arwr feiddio, a dioddef.
Y mae Cristionogion y dwyrain wedi dioddef llawer ar law y Mahometaniaid. Gwŷr chwyrn,