Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Unwaith, yr oedd Pedr Fawr, y Czar wnaeth allu aruthrol Rwsia y peth ydyw, yn gwledda yn y Neuadd Ymherodrol yn St. Petersburg, y ddinas newydd oedd y Czar mawr wedi ei hadeiladu fod yn brifddinas Rwsia. O amgylch yr ymherawdwr yr oedd llu o dywysogion a chadfridogion; a chydag ymylon y dorf ddisglair, yn gwylio, yr oedd rheng o filwyr.

"A oes rhywun faidd ymaflyd codwm â mi?" ebe Pedr Fawr. Acth y tywysogion a'r pendefigion yn fud; ni feiddiai neb feddwl am daflu yr eneiniog Czar. Ond ymysg y milwyr yr oedd march-filwr ieuanc ffôl. Cerddodd ymlaen, ac meddai,—

"Clyw, uniawngred Czar, mi a dy fentraf di."

"O'r goreu," ebe'r Czar. "Mi a ymgodymaf â thi ar yr amod hwn. Os tafli fi, cei dy fywyd. Os taflaf di, torrir dy ben. A ymgodymi di ar yr amod hwn?

"Gwnaf, O Czar mawr."

Ymaflasant yn eu gilydd, a thoc aeth y Czar mawr i lawr. Ond daliodd y milwr ef rhag syrthio i'r llawr.

Gofynnodd y Czar pa wobr ddymunai, ac atebodd. y bachgen ynfyd,—"Cael yfed yn ffri ym mhob gwesty brenhinol."

Medrai'r milwr ieuanc cryf daflu ymherawdwr Rwsia; ond, wrth geisio ymgodymu â'r ddiod feddwol, tarawodd ar un cryfach nag ef. Ac yn yr ymdrech honno, angeu oedd canlyniad colli'r frwydr.