Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/75

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

VII. HELA LLEWOD.

GWAITH perygl yw hela llewod. Mae tri dull o wneud hynny. Chwi wyddoch am wlad y Somali, lle mae byddin i ni yn awr, yn disgwyl gorchymyn i fynd ar draws yr anialwch i ymladd a'r proffwyd gwyllt. Dangosais lle yr oedd pan oeddym ar ei chyfer. Gwlad y llewod ydyw honno. Yr oeddwn i unwaith yn mynd o Aden ar negesi Berbera; perthyn i ni, fel y gwyddoch, y mae'r ddau borthladd hynny, y naill yn Arabia a'r llall yn Affrica, a Chulfor Aden rhyngddynt.

Yr oedd yn rhaid i mi aros yn Berbera yn hir. Nid oedd yno fawr i dynnu fy sylw ond pan ddeuai ambell fasnachwr Somali ar draws y gwastadedd aniali'r môr. Dywedid wrthyf fod bryniau gwyrddion a gwastadeddau glaswelltog a ffynhonnau dyfroedd ymhellach i mewn yn y wlad. Dywedid hefyd fod yno adfeilion temlau Cristionogion fu yno'n byw o flaen y Mahometaniaid sydd yno'n