awr. A dywedid fod yno ddigon o fwystfilod gwylltion,—y llew, yr eliffant, y trwyngorn, y baedd gwyllt, y zebra, a phob math o hydd.
Bum yno am wythnosau yn hela llewod; ac y mae'm cader, yn y fan acw, yn sefyll ar gwrr croen. llew a saethais; ond fe fu agos iawn i'r llew hwnnw fy lladd.
Fel y dywedais, y mae tri dull o hela llew. Y dull cyntaf ydyw gorwedd a gwylio. Rhaid i chwi wneud rhyw fath o gaban o ddrain garw, a gadael drws i ymwthio i mewn iddo. Yna, rhwymwch afr neu asyn y tu allan. Wedi hynny, ymwthiwch i'r caban, a gwthiwch ddrain i gau'r drws. Y gwaith nesaf yw rhoddi eich gwnn a'i ffroen trwy'r drain, fel y gallwch anelu mewn amrantiad at unrhyw beth ddaw at yr afr sydd yn cysgu'n dawel, heb feddwl am lew na dim, y tu allan. Os cysgwch, a deffro yn y bore, feallai y bydd yr afr wedi diflannu, a dim ond ôl troed y llew i'w weld. Os byddwch yn effro, cewch weld y bwystfil mawreddog yn dod yn llechwraidd o'r goedwig, a'r afr yn crynnu gan arswyd oherwydd presenoldeb ofnadwy y llew. Taniwch! Os lladdasoch ef, bydd yr afr a chwithau'n ddiberygl. Ond os methasoch, chwi, ac nid yr afr, fydd mown perygl. Ymhyrddia y bwystfil clwyfedig, digllon, ei hun yn erbyn eich castell drain; ac oni fedrwch fod yn ddigon cyflym i roi bwled arall yn ei ben neu ei galon, gwae chwi.
Dull arall yw dilyn ar ol y llew ar droed i'r prysgwydd, lle y cysga y dydd. Clywir fod llew wedi mynd a mynn neu blentyn o un o bentrefi'r brodorion. Dilynant ôl eì draed i'r llwyni trwchus. Wedi cyrraedd yno, ni wyddoch ar ba amrantiad y