Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/77

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dowch wyneb yn wyneb â'r llew. Gwelwch y canghennau yn symud, clywch ru ofnadwy, a rhuthra'r bwystfil digofus heibio i chwi neu atoch. Rhaid cael anelwr iawn, a dyn diofn ac effro, i hela'r llew fel hyn. Ond y mae'n ddull mwy dyddorol na'r llall, oherwydd ei fod yn fwy cyffrous.

Y trydydd dull yw hela llew ar geffyl. Mewn gwlad agored, lle ceir glaswellt hir yn lle prysgwydd, y gellir hela fel hyn. Dilyna'r cwmni ôl ei droed nes cael rhyw syniad ym mha ran o'r gwastadedd mae'n cysgu. Yna deuant at ei wâl o wahanol gyfeiriadau, pawb a'i wnn yn berffaith barod, oherwydd ni ŵyr neb trwy ba ochr i'r twmpath gwellt, y daw allan. Os na saethir ef yn farw, peth perygl iawn fydd dilyn ar eì ol wedi ei glwyfo. Lladd y dyn cryfaf âg un ergyd â'i balf nerthol, ae ni fydd ond ychydig eiliadau yn lladd march a'i farchog yn ei gynddaredd.

Yr oeddwn yn adnabod Kruger pan oeddwn yn Ne Affrig. Cyn iddo ddod yn llywydd y Transvaal oedd hynny, ae ymhell cyn y rhyfel, wrth gwrs. Dywedodd lawer hanesyn wrthyf am dano ei hun. Aeth allan unwaith gyda'i dad, a dau arall, ar ol llew oedd wedi ymosod ar eu praidd. Huw oedd enw un o'r helwyr, a dywedai o hyd,— Ni gawn weld Paul yn dychrynnu wrth weld ei lew cyntaf,” gan boenydio y bachgen. Yr oeddynt oll ar eu ceffylau.

O'r diwedd, daethant at y twmpath gwellt sych lle'r oedd y llew'n cysgu. Dechreuasant ei amgylchynu. Rhoddwyd y bachgen Paul Kruger mewn cyfeiriad y tybient nad oedd berygl i'r llew neidio allan. Toe, clywodd y llew hwy'n dod.