Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/78

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhuodd yn arswydus, a gwelai'r bachgen ei ben yn dod drwy'r glaswellt yn union i'w gyfeiriad ef. Anelodd at y pen, a thaniodd. Neidiodd y llew yn syth i fyny i'r awyr, a disgynnodd i lawr yn berffaith lonydd. Wedi clywed y glec, carlamodd y tri ereill at Paul Kruger, a gwelodd Huw fod y llew yn farw gorn.

Yr oedd Kruger wedi clywed y medrai llew ruo un waith wedi marw. Pe neidiai rhywun ar ochr y gelain,—felly y clywsai,—gwthid y gwynt i wddw y llew, gan wneud rhuad olaf y bwystfil. Yn sydyn, pan oedd yr hen Huw yn edrych dannedd y llew, neidiodd Paul Kruger ar ochr y gelain. Agorodd y llew mawr ei enau, a rhuodd fel pe buasai'n fyw. Neidiodd Huw oddiwrtho, ac ar gefn ei geffyl, gan roddi ei holl feddwl ar ddianc. Gallwch feddwl gymaint o ddifyrrwch roddodd hyn i'r bachgen; a chlywais ei fod yn adrodd yr ystori yn ddiweddar, gan chwerthin yn iach.