Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

GOFIDUS iawn i mi oedd cael hanes y tân yn ysgol enwog Eton, fy hen ysgol, yn nechreu y mis diweddaf. Dydd mawr Eton ywr pedwerydd o Fehefin; ond eleni yr oedd pawb mor brudd fel yr aeth y dydd hwnnw heibio heb gân nac adroddiad na llawenydd.

Y mae Eton, magwrfa cymaint o wŷr mawr Lloegr, yn hen hen. Mae'r bechgyn yn byw yn nhai gwahanol athrawon. Mae'r tai hyn yn hen ffasiwn,—yr iorwg yn cuddio eu muriau y tu allan; a'r tu mewn, gyda'i ystafelloedd trymaidd ai risiau culion, o hen goed sych iawn i'r fflam.

Y mae barrau heiyrn ar bob ffenestr, er yr hen amser, i rwystro'r bechgyn direidus ddod trwodd. Yr oeddis wedi tynnu y rhain o bob ty ond un drwy'r ysgol.

Un nos yn nechreu Mehefin, torrodd tân allan yn y tŷ hwnnw yn oriau'r nos. Ni ŵyr neb sut. Deffrowyd un o'r bechgyn gan y mŵg oedd bron a'i fygu. Gwaeddodd ar y lleill. Yr oedd y mŵg yn llenwi'r grisiau erbyn hyn, a'r fflamau creulon yn dilyn ar ei ol. Trwy ymdrechion anhygoel bron, medrasant dynnu'r barrau oddiar rai o'r ffenestri, a llithro i lawr hyd y planhigyn dringol oedd yn tyfu hyd y mur.