Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/80

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond yr oedd dau yn cysgu mewn dwy ystafell uwchben. Dywedir i rai weld gwyneb gwelw un o'r bechgyn yn tynnu ym marrau ei ffenestr, ond gorchfygodd y mŵg ef, a dihangodd yn ol. Ymlusgodd dan ei wely, i ddianc rhag y mŵg marwol, nes y deuai ymwared. Ac yno y cafwyd ei gorff, wedi llosgi'n golsyn. Y mae'n debyg i'r bachgen arall ddianc i dragwyddoldeb yn ddiboen. Tybir na ddeffrôdd, ond fod y mŵg wedi ei wneud yn ddideimlad cyn iddo wybod fod perygl.

Gwnaeth pawb ei oreu, yn enwedig yr athraw, i achub y ddau fachgen. Dringodd yr athraw at y ffenestr, llosgodd ei ddwylaw a'i wyneb wrth geisio tynnu'r barrau. Ac erbyn hynny, ni welai ond mŵg yn yr ystafell, ac nid oedd llais yn ateb.

Nid oedd fawr er pan oedd rhieni hoff yn anfon y ddau fachgen,—ei fam yn dod ag un o Lundain, a'i dad a'r llall o'r Alban. Prudd iawn oedd mynd a'u gweddillion yn ol.

Yr wyf yn galw sylw at y trychineb ingol er mwyn. gofyn cwestiwn. A oes ysgol neu dŷ yn ein gwlad, lle mae plant, nas gellir dianc ohonynt ond ar hyd y grisiau? Y grisiau yw'r llo mwyaf anodd dianc hyd-ddynt; yno y bydd y mŵg dewaf a'r tân ffyrnicaf. Y ffenestr yw'r unig obaith. Nid oes ofn lladron fel y bu ; pe mynnai lleidr, gallai fynd i unrhyw dŷ'n hawdd. Ni ddylid rhoi barrau ar ffenestr nas gellir eu tynnu o'r tu mewn. Dylai pob ffenestr fod gymaint ag sydd bosibl,—goleu a heulwen yw'r galluoedd sy'n sicrhau iechyd. Dylai fod dihangfa o bob ffenestr hefyd. Dylai fod ysgol, mewn man cyfleus, ddigon hir i gyrraedd y ffenestr uchaf yn yr adeilad.