Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/82

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

O ble y daethent? Sut y medrent ein gweld ni tra yr oeddynt hwy ymhell o gyrraedd gwelediad y llygad craffaf? Arogli'r gelain? Na wnaethant. Beth oedd y gwahaniaeth rhwng arogl llew byw ac arogl llew newydd ei ladd?

Yr wyf yn meddwl fy mod wedi deall y dirgelwch. Ac mi ddwedaf i chwi pa fodd. Yr oeddwn yn hela yng ngwlad y Somali, ac yn chwilio am lewod. Aethom trwy wlad lle yr oedd llewod wedi bod, ond yr oeddynt newydd gilio o honi. Yr oedd pob hydd wedi dianc rhag eu hofn, ae nid oedd yno un creadur byw i dorri ar ddistawrwydd unig y fro. Ond pan oeddym bron a gadael yr ardal hon, gwelwn ewig. Saethodd un o honom hi, a blingasom hi. Nid oedd arnom eisieu y cig i gyd, a gadawsom” lawer ar yr ysgerbwd.

'Tua'r nos daethom heibio'r ysgerbwd yn ol. Er syndod i ni, nid oedd dim wedi cyffwrdd âg ef. Nid oedd yr un aderyn rhaib wedi bod yn agos ato. Bob tro o'r blaen, byddai'r adar wedi bwyta popeth ond yr esgym.

Gwelais yr achos. Nid gweld y gelain o bell wna'r aderyn rhaib, na'i arogli. Dilyn y llew a'r teigr a'r blaidd y mae. Gwylia uwchben y llew fo'n cysgu'r dydd, gan feddwl ei ddilyn pan gychwynno i chwilio am ysglyfaeth. Felly, pan saethem ni lew, yr oedd rhyw aderyn yn ein gwylio. Ehedai atom. Gwelai adar ereill ef yn ehedeg. "Mae bwyd fan acw," meddent. Ac ehedent oll i'r un cyfeiriad, nes y llenwid yr awyr uwch ein pen â hwynt.