Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/83

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

X.—DYCHYMYG A FFAITH

BREUDDWYD yw nodwedd y Dwyrain; ffaith yw nodwedd y Gorllewin. Eistedd y pennaeth yn y Dwyrain dan gysgodlen ddrudfawr; myfyrìa, dychmyga. Saif y pennaeth yn y Gorllewin o flaen y bobl; arweinia'r Senedd, arwain y fyddin; mae'n llawn egni a dyfais.

Prif ddull ystraeon y dwyrain ydyw rhoi gallu goruwchnaturiol i ddyn wneud yr hyn a ewyllysia,— fod y meddwl yn dod yn ffaith ar unwaith. Nid ofer yw dychmygu felly. Esgorodd y dychmygu ar ddyfeisio ffordd. Onid yw gwyddoniaeth yn