II.—TAIR GENETH FACH
AR fore cynta'r flwyddyn, yr oedd tair geneth fach yn dod i lawr y grisiau eu hunain, wedi codi heb i neb eu galw. Y mae'r tair yn dod yn ddistaw iawn; ac y mae gwên disgwyliad ar wyneb pob un. Er ei bod yn oleu ddydd, y maent yn meddwl eu bod yn codi yn fore iawn. Eu hamcan yw gwaeddi "Fy nghalennig i" cyn i neb ddeall eu bod wedi codi, a chyn i neb waeddi "Fy nghalennig i" arnynt hwy. Eu perygl mawr yw chwerthin yn uchel cyn cyrraedd yr ystafell lle y mae eu mam a'u tad; oherwydd y mae eu calonnau yn llawn o obaith a mwynhad.
Nid oes dim ar y ddaear hon mor brydferth a phlant da mewn cartref hapus. Os medr rhieni wneud cartref hapus i'w plant, byddant wedi rhoddi cariad yn eu meddyliau at ddiniweidrwydd pur bore oes, ac wedi rhoddi hiraeth yn eu calonnau am gartref a mam a thad,—hiraeth fydd yn santeiddio eu heneidiau ym mhob temtasiwn a thymestl,—hyd eu bedd. Nis gallwn, feallai, roddi cyfoeth mawr na iechyd perffaith i'n plant; ond gallwn oll, hyd yn oed y tlotaf o honom, geisio gwneud eu cartref yn gartref dedwydd iddynt.
Yn nyfnder y gaeaf hwn, gellid gweld golygfa torcalonnus yn un o drefi bychain mwyaf crefyddol a mwyaf dyngarol Cymru. Yr oedd tri o blant bach heb gartref. Pan oedd yn dyddio, rhwng saith ac wyth o'r gloch y bore,—bore oer a gwlyb,—yr oedd tri bychan yn eistedd ar garreg drws gorsaf yr heddgeidwad. Gwasgont at eu gilydd i gynhesu; ond digon oer oedd y tri bychan carpiog.