Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/88

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Paham y daethant yno? Y mae'n debyg mai oherwydd mai yno y gwelsant eu tad a'u mam ddiweddaf. Yr oedd y rhai hynny wedi eu gwysio o flaen yr ynadon am esgeuluso eu plant, a'u gadael yn newynog a diymgeledd. Cafwyd y tad a'r fam yn euog o'r creulondeb hwn at eu plant eu hunain, ac anfonwyd hwy i'r carchar.

Beth all wneud i dad a mam esgeuluso eu plant, a'u gadael i wylo mewn carpiau, ac heb ddigon o fwyd? Nid oes ond un peth yn y byd fedr wneud hyn, a'r peth hwnnw yw'r ddiod feddwol.

'Tra'r oedd y tad a'r fam yn y carchar, yr oedd eu tri plentyn bach yn chwilio am danynt; ac wedi cyrraedd rywsut at y fan y gwelsant hwy ddiweddaf. Beth bynnag fyddant, oddiwrth eu tad a'u mam y disgwyl plant nodded.

Cymerodd rhyw Samaritan drugaredd ar y plant. Cawsant fwyd a chynhesrwydd; a rhoddwyd cyfarwyddyd iddynt ffordd i fynd i orsaf y ffordd haearn, i fynd oddiyno i dloty tref gyfagos. A gwelwyd y tri yn cychwyn drachefn,—y plentyn lleiaf yn cael ei gario ar gefn yr hynaf, ac un troed bach yn noeth.

Yn lân a hapus y dylai plant gael codi o'u gwelyau bob bore, i dderbyn croesaw a chusan tad a mam. Ond am y tri bychan hynny, yr oedd yn rhaid iddynt hwy guro'n ofnus wrth ddrws y tloty, lle nad oedd iddynt dad na mam.