Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/89

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

III.—BACHGENNYN YN ACHUB TREF

Hwyrach yr hoffech wybod sut yr achubodd llanc ieuanc o'r enw Hans dref rhag boddi. Is-Ellmynwr (Dutchman) o ran ei rieni oedd y bachgen hwn, ac yr oedd o'i febyd,—fel y dylai pob plant da fod,—yn ufudd bob amser i'w rieni. Yr oedd hefyd wedi cael ei ddysgu i ba le bynnag y caffai ei anfon gan ei dad a'i fam, i ddod adref yn gynnar o'i negesau.

Un prynhawn, fodd bynnag, yr oedd ei rieni yn dechreu mynd yn anesmwyth yn ei gylch, am nad oedd wedi dychwelyd yn ei amser priodol. Y tro hwn cafodd ei anfon o'r dref i'r pentref cyfagos, lle yr oedd ei ewythr yn byw, ac yr oedd fel arfer i ddychwelyd yn ddioed ar ol tê, fel y byddai gartref cyn nos. Aeth amser heibio, ond nid oedd hanes am Hans yn unman, a dechreuodd ei rieni anesmwytho. Wedi mynd at y drws dro ar ol tro, penderfynasant fynd i chwilio am dano, a chymeryd gyda hwy lusern oleuedig i gael gweld y ffordd.

Digwyddai fod y llwybr ar hyd yr hwn yr oedd rhaid i Hans ddod ar ochr arglawdd, oedd yn cadw y môr rhag gorlifo y tir. Tra yr oedd ei rieni yn mynd hyd y llwybr hwn, yr oeddynt wrth reswm yn bur ofalus, gan aros yn awr ac yn y man i alw a gwrando. Ond nid oedd dim argoel iddynt glywed Hans nes oeddynt bron a chyrraedd y pentref. Yna arosasant i alw,—"Hans, Hans."

O'r diwedd, clywsant lais bron odditanynt, ac aeth ei dad i weld beth oedd y mater. A pha beth, debygech chwi, oedd Hans yn ei wneud? Yr oedd yn cadw y môr yn ol â'i law fach.