Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/90

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tra yr oedd y llanc yn cerdded adref, gwelodd ar ochr yr arglawdd fod y dwfr yn dechreu torri drwy agen fechan. Clywodd ei dad lawer gwaith yn siarad am y llifogydd dychrynllyd oedd wedi cymeryd lle fel canlyniad i'r môr dorri drwy y gwrthgloddiau hyn, er i'r dechreu fod yn fychan, canys ai yr agen yn fwy, fel y byddai i'r gwrthglawdd ymollwng, a miloedd lawer yn boddi mewn canlyniad. Tra yn cofio am hyn, fe welodd y llanc bychan fod y ffrwd fach hyn yn dangos fod perygl. 'Doedd dim amser i redeg i'r dref i roi rhybudd, a 'doedd neb yn agos yn y cyfwng. Penderfynodd fynd i lawr i'r banc ei hunan, gan wasgu ei law fechan ar y twll i gadw y dwfr yn ol. Bu yno am amser maith yn methu clywed na gweld neb nes iddi fynd yn nos; er iddo alw yn fynych, 'dloedd neb yn ddigon agos i'w glywed, hyd nes iddo glywed llais ei dad. Yr oedd, erbyn hyn, yn oer a blinedig, ond arhosodd yno wrth ei orchwyl. Fe welodd ei dad y perygl ar unwaith, ac fe ddaliodd ei law gref i gadw y dwfr yn ol cyhyd ag y bu y fam yn rhedeg i'r dref i gael gweithwyr i gau y twll yn briodol. Ac nid hir y buont cyn gwneuthur hyn, ac yn awr yr oedd y perygl drosodd.

Ond yr oeddynt i gyd yn teimlo fod Hans bach wedi achub y dref. Oni buasai iddo atal y ffrwd fechan, buasai wedi rhedeg yn un fawr, a chyn y gallasai neb ei rhwystro, fe fuasai y môr wedi torri drwy y gwrthglawdd, ac erbyn y bore fe fuasai yr holl dref wedi boddi.

Gwelwn wrth hyn y gall perygl mawr godi oddiwrth beth sydd yn edrych yn fychan ar y cyntaf; ac os ydym am achub pobl rhag peryglon mawrion, ni ellir byth ddechreu yn rhy gynnar.