Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/91

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

IV.—Y FOR FORWYN

Un o hanesion hynaf y byd yw hanes y fôr forwyn. Hanner genethig, hanner pysgodyn oedd hi. Yr oedd ganddi wyneb a gwallt a dwylaw merch brydferth, ond yr oedd gwrychell pysgodyn ar ei chefn, ac yn lle coesau a thraed yr oedd ganddi gynffon fforchog.

Trigai mewn ogof dan y môr, dan y creigiau peryglus. Os daw llong at y creigiau hynny, gwae iddi. Curir hi gan y tonnau yn erbyn y graig nes a'n ddrylliau. Gwaith y fôr forwyn dlôs a chreulon oedd hudo morwyr, druain, i'w dinistr. Canai delyn fechan, ac unwaith y clywai'r morwyr ei llais swynol, ni fedrent beidio troi y llong o'i llwybr, a mynd i gyfeiriad y llâis mwyn a'r dinistr.

Y mae hanes am un o forwyr yr hen amser fel hyn. Gwyddai fod ei long yn dod at gartref y fôr forwyn. Llanwodd glustiau y rhwyfwyr oll â chŵyr, fel na chlywent ddim. Yna gwnaeth iddynt ei rwymo ef wrth yr hwylbren yn ddiogel; a gorchymynodd iddynt gadw ar eu llwybr, beth bynnag a ddywedai ef wrthynt.

Bob tro y rhoid y rhwyf yn y dŵr, yr oeddynt yn dod nes nes at gartref y fôr forwyn. Toc, clywai'r morwr gân na chlywodd ei chyffelyb erioed,—yr oedd mor bur, mor felus, mor swynol. Teimlai awydd angerddol am rwyfo i gyfeiriad y llais. Anghofiodd y perygl, gwaeddodd ar y gŵr oedd wrth y llyw ac ar y morwyr i droi oddiar eu llwybr i'r de. Ond nid oeddynt yn clywed dim. Rhwyfasant yn ddiogel heibio'r perygl heb wybod ei fod yno.