Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/93

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y mae'r ystori'n wir. Y mae môr forwyn yn hanes pob bachgen ieuanc a geneth ieuanc. Ceisia hudo pob un oddiar lwybr ei ddyledswydd. Y munud y gwrandawa arni, ac y try oddiar lwybr gwaith a dyledswydd ì chwilio am bleser, mae creigiau dinistr o'i flaen, â drwy weddill ei fywyd yn wreck. Beth yw hanes y bechgyn a'r genethod sydd wedi codi o dlodi i gyfoeth, ac o ddinodedd i fri, ac o gylch cyfyng i ddefnyddioldeb eang? Gwrthod gwrando ar lais y fôr forwyn. Yn lle ymroi i bleser diog fel eu cyfoedion, gweithiasant yn galed, daliasant eu llygaid ar nôd uchel, a daethant yn ddiogel o byllau'r glannau i'r môr agored ardderchog sydd yn llwybr i bob man.

V.—CRWYDRYN BYCHAN

MAE gwir yn rhyfeddach na rhamant yn ddigon aml. Ychydig amser yn ol, anfonodd boneddiges imi ddernyn o'r Daily Telegraph, yn cynnwys hanes crwydriadau plentyn digartref.

Ddydd Sadwrn diweddaf, ebe'r papur newydd, dygwyd plentyn o flaen yr ynad, yr hwn a edrychai'n syn ar yr heddgeidwaid â llygaid mawr agored, ar y cyhuddiad o "grwydro." Bachgen bychan bychan oedd, tair ar ddeg oed, a'i enw Robert Robinson, ac yr oedd wedi bod yn grwydryn hyd wyneb y ddaear ers dwy flynedd.

'Trodd ei dad ef o'r tŷ yn Crewe yn 1895, paham nis gwyddid. Crwydrodd y bychan oddiyno, hyd lwybrau gwyrddion ac hyd y ffyrdd hirion, blin, ar