Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

heulwen a gwlaw, heb nôd o'i flaen, byth yn aros yn hir yn unman, am fisoedd a misoedd. Yr oedd ganddo chwaer yn Warrington, ond pa fodd y gallai ei chael mewn lle mor fawr a phoblog? Ond daliodd i gerdded ymlaen o hyd.

Daeth y gwanwyn, a rhoddodd flodau ar ei lwybr; daeth yr haf, a gwelai'r plant yn chwareu yn y caeau; daeth gwynt yr Hydref i chwirlio'r dail oddiar y coed, a gwelai yntau gasglu'r ffrwythau; daeth eira a rhewynt y gaeaf, a gwelai blant wrth y tân mewn llawer bwthyn clyd. Ond nid oedd neb a gair caredig i'w ddweyd wrtho ef; yng nghysgod gwrych neu fur y cysgai, heb gwmni ond y nos a'r eira a'r sêr. Cwsg oedd yr unig gymhwynasydd, ac ambell freuddwyd ddeuai i'r meddwl bychan.

Weithiau cai ei hun ar waenydd unig Yorkshire, yn cysgu dan goeden heb neb o fewn milltiroedd iddo. Dro arall, cai ei hun yn heolydd Lerpwl, yn cysgu mewn rhyw gornel dywell, a neb o'r miloedd pobl yn malio dim ynddo ef.

Daeth hiraeth am ei fam dros ei feddwl unwaith, a throdd ei gamrau tua'r cartref yr oedd wedi ei droi ohono. Erbyn cyrraedd yno, ac edrych trwy'r ffenestr, a holi, yr oedd ei fam wedi marw. Trodd ymaith, i'r nos, yn fwy unig nag erioed.

A ddioddefodd y plentyn bychan hwn? Do, mae'n ddiameu, misoedd o ing iddo ef oedd y misoedd hynny. Mae plant yn hoff iawn o gwmni, yn enwedig o gwmni eu gilydd; a gwn beth oedd teimladau y crwydryn bach pan wrthodai pob plant siarad, rhagor cyd-chwareu, âg ef.

Trodd ei gamrau tua Llundain. Teithiodd y ffordd hir heb gwmni, heb gymorth, ar fin newynu'n