Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/95

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddigon aml. Gwelai blant yn dod o'r ysgol, yn prysuro adref,—ond, er hired ei siwrne, nid oedd iddo ef gartref yn y byd.

Wedi cyrraedd Llundain, trodd o'r heolydd llawnion, a gorweddodd i gysgu wrth droed cofgolofn General Gordon, yr arwr achubodd lawer o blant digartref ac a roddodd iddynt foddion i ennill eu cynhaliaeth. Ac yno y cafodd yr heddgeidwad ef, yn cysgu'n dawel.

VI. EISIEU BOD YN FRENIN

"MI hoffwn fod yn frenin," ebe Huw bach ab Ioan. "Fuase raid i mi ddim dysgu felly, a fuase raid i mi ddim ufuddhau, dim ond gorchymyn."

Yr oedd Huw bach ab Ioan yn gwneud camgymeriad mawr. Y mae brenin yn gorfod dysgu, yn gorfod gweithio'n galed, ac yn gorfod ufuddhau,—ychydig iawn o frenhinoedd sydd yn cael eu ffordd eu hun. Gall Huw wneud ceffylau o'r cadeiriau, a dychmygu ei fod yn carlamu'n wyllt, a miloedd o bobl yn rhedeg oddiar y ffordd, ac yn rhyfeddu at ei allu i yrru cynifer o geffylau. Gall Huw ddychmygu hefyd y gallai reoli'r byd heb ddysgu dim; y mae llawer hŷn nag ef yn meddwl yr un peth ynfyd.

Bachgennyn, ar hyn o bryd,[1] yw brenin Spaen. Ei enw yw Alfonso XIII. Bu deuddeg Alfonso ar orsedd Spaen o'i flaen; ac yr oedd rhai ohonynt yn

  1. Erbyn hyn y mae'r brenin hwn yn ŵr, wedi priodi un o deulu ein brenin ni, ac wedi gweld llawer o droion cynhyrfus.