Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/97

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhyfelwyr dewr ac yn wladweinyddion doeth. Ond bachgennyn tal, gwan, yw ef.

Mae'n medru, heblaw ei iaith ei hun, Ffraneaeg a Saesneg a'r Almaeneg, ae y mae'n bur hyddysg yn ei Ladin. Cwyd saith o'r gloch y bore drwy'r flwyddyn. Wedi ymwisgo, gweddio, a brecwesta, bydd gyda'i lyfrau o hanner awr wedi wyth tan ddeg, llyfrau Saesneg a llyfrau Ffraneaeg bob yn ail fore. O ddeg i unarddeg, ca wers mewn marchogaeth. O unarddeg tan hanner dydd astudia fferylleg, daearyddiaeth, neu'r grefft filwrol. Am hanner dydd ca nawnbryd gyda dau o'i athrawon. O un tan ddau cymer Almaeneg a thynnu lluniau bob yn ail. Wedi hynny, darllen lenyddiaeth a hanes. Y mae'n hofî iawn o hanes. Yna a allan am ychydig gyda'i fam, neu a drwy drill gyda bechgyn o'r un oed ag ef. Am saith o'r gloch ciniawa gyda'i chwiorydd. Am hanner awr wedi wyth, cymer wers mewn cerddoriaeth. Yna, wedi dweyd ei bader, a i'w wely am naw.

Y mae'n amheus gennyf a oes bachgen yn holl Ysgolion Sir Cymru yn gweithio mor galed a brenin baeh Spaen. Ymhen dwy flynedd a hanner bydd yn dechreu rheoli'r wlad. Y mae ei waith yn un anodd iawn, ac ni ŵyr neb eto a fedr lwyddo. Y mae llond y wlad o wrthryfel; y mae'r talaethau,— Catalonia, Asturias, Galieia, ar ereill,—yn teimlo iau Castile yn drom. Y mae llond y wlad o ddioddef ac o bechod; y mae'r llafurwyr yn cashau eu meistri, a therfysgoedd yn aml. Y mae Spaen yn dlawd, a'r trethi'n pwyso'n drwm ar y bobl. Y mae newydd fod mewn rhyfel âg Unol Dalaethau'r Amerig, ac wedi colli ei milwyr a'i llongau a'i