Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/98

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

threfedigaethau a'i phareh,—a hithau'n wlad falch iawn.

Tasg caled sydd o flaen Alfonso bach. Beth pe buasai Huw bach ab Ioan yn frenin, ae yntau'n wyllt ei dymer ac yn gwrthod dysgu? Dinistriai ei wlad ac ef ei hun.

VII.—PRYDER AM DAD

AFON fawr India yw'r Ganges. Addolir hi gan drigolion y wlad, a chredant y ceir goleuni ganddi ar bob amgylchiad mewn bywyd. Os bydd rhywun mewn perygl, rhoddant lusern fechan i nofio arni. Os nofia llusern i lawr yr afon. o'r golwg, tybiant y bydd y claf byw; ond os difíydd yn y dŵr, credir mai marw a wna.

Ar ei glan, mewn bwthyn salw, flynyddoedd yn ol, fe drigai geneth hardd. Collasai ei mam, a denwyd ei thad i ymrestru yn filwr i ymladd â gelynion ei wlad. Ni allai y fereh, gan flinder dwys, wneud fawr o ddim ond meddwl am, yrfa ei thad dewr. Carasai yn fawr wybod rhywbeth yn ei gylch; ac wedi hir-ddisgwyl, o'r diwedd penderfynodd ymofyn â'r afon Ganges. Dacw hi, gyda'i llusern fach yn ei llaw, ar noson dywell, yn dianc, yn ddistaw fel ewig, o'r bwthyn, a'i llygaid yn llawn o nwyfiant ieuenctid. Dryllir ei sandalau gan y drain a'r mieri, a chilia bwystfilod rheibus yn synedig wrth weld y goleuni a chlywed y trwst. Neshaodd yr eneth at yr afon a gosododd y llusern i nofio arni, a