chariwyd hi i lawr gyda'r lli. Gwelir pryder dyfnach ar wyneb y fach, a graddau o ofn yn dechreu dangos ei hun yn ei llygaid.
Cred fod ei thad yn fyw ac yn iach, ac y del adref ati ryw ddydd, os parha y llusern yn oleu tra y dywed hi ei gweddi hwyrol. Tŷb weithiau fod y goleuni wedi mynd allan, a chyffroir hi nes bron dyrysu ei gweddi. Camgymeriad ydoedd. Daw y llusern i'r golwg unwaith eto. Mae'r weddi drosodd, a chenfydd, wrth sylwi'n fanwl, y goleuni yn teithio yn hwylus i gyfeiriad y môr. Cyfyd i fyny wedi i'r llusern gilio o'r golwg, gan redeg tua'r bwthyn a gwaeddi,—"Mae 'nhad yn fyw!" Gwrendy y creigiau ar ei chri ac atebant yn ol,— "Mae 'nhad yn fyw."
Gobeithio na siomwyd hi, ond i'w thad ddychwelyd yn iach a chydag anrhydedd mawr, canys ni feddai drysor mwy na'i eneth fach.
VIII. NOFIWR PRYDFERTH
Y MAE cragen eiddil gywrain y Nautilus yn un o'r pethau tlysaf yn y byd. Gall y Nautilus ddod o'r gragen, gan ledu dwy fraich fel dwy hwyl i'r gwynt, a physgota & breichiau ereill. Neu gall ymwasgu i'w gragen, a suddo i'r dyfnder tawel, tra bo ystormydd yn curo yn ddidrugaredd ar wyneb y môr. Gwerthir y gragon gain gan ynyswyr Môr y De; ac nid oes law fedr gerfio peth tlysach, perfieithiach, na hi.