Tudalen:Llyfr Owen.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

III

CHLESTACOFF

1. Y MAE Rwmania yn taro ar Rwsia, ac y mae Gogol, un o lenorion mawr Rwsia, wedi adrodd ystori am un o drefydd Rwsia. Yr oedd llawer o orthrwm yn Rwsia. Byddai'r cryf yn gwasgu'r gwan; byddai'r llywodraethwr, y barnwr, yr athro, a phawb mewn awdurdod, yn mynnu llenwi ei bocedau ei hun. Ar ei dro deuai swyddog y Llywodraeth i chwilio pob camwri, ac i geisio gwneud cyfiawnder. A byddai ei ddyfodiad yn ddychryn i'r rhai anghyfiawn. Nid oedd ynteu yn gyfiawn, bid siŵr.

2. Rhyw ddiwrnod, daeth teithiwr i dref. Gwelodd rhai o'r bobl ef rhwng rhigolau drws y gwesty. Ac aeth y si allan,—Mae'r swyddog wedi dod!" Synnwyd pawb, nid oedd neb yn ei ddisgwyl mor fuan, ac nid oedd neb wedi cael amser i guddio ei orthrwm a'i anwiredd.

Ond y gwir oedd nid y swyddog perygl oedd yn y gwesty, ond Chlestacoff. Teithiwr ofer oedd ef, wedi colli pob dimai a feddai ar y ffordd wrth fetio. Ac yr oedd ar ganol ffraeo â gŵr y gwesty. a wrthodai fwyd a diod iddo heb dâl.

3. Pwy ddaeth i mewn yn fawreddog iawn ond Llywodraethwr y dref. Tybiai Chlestacoff ei fod wedi dod i'w ddal ef, greadur afradlon; ond credai'r Llywodraethwr mai'r swyddog perygl oedd, yn cymryd arno mai teithiwr blin oedd.