Tudalen:Llyfr Owen.pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

saith mlynedd. Ac allan ymhell uwch ben y weilgi yr oedd tri aderyn Rhiannon yn canu'n felys ac yn glir fel pe buasent yn eu hymyl.

Ac ar ddiwedd y saith mlynedd aethant tua Gwalas ym Mhenfro. Ac yno yr oedd lle teg brenhinol uwch ben y môr. Ac aethant i'r neuadd, a gwelent dri drws ynddi,—dau yn agored, a'r llall, sef y drws at Gernyw, yng nghaead. " Welwch chwi. ebr Manawyddan, " dacw'r drws na ddylem ei agor."

Ac yno y buont am bedwar ugain mlynedd, a'r pen gyda hwy. Ac ni chawsant amser mwy digrif a hyfryd erioed Oherwydd nid oeddynt yn meddwl nac yn cofio am yr holl anffodion oedd wedi cyfarfod â hwy yn Iwerddon ac wedi iddynt gyrraedd Cymru.

Ond, rhyw ddiwrnod, ebr Meilyn fab Gwynn wrtho'i hun: "Rhaid i mi gael agor y drws acw, a gweled a yw y peth a ddywedir amdano yn wir." Agor y drws a wnaeth, ac edrych ar Aber Henfelen a Chernyw. A chydag iddo wneud hynny, daeth i gof y saith yr holl anffodion oedd wedi cyfarfod â hwy. yn enwedig colli bywyd eu harglwydd Bendigaid Frân.

Ni allent aros yn hwy yng Ngwalas. Aethant ar hyd y daith hir i Wynfryn Llundain, sef y Tŵr Gwyn. ac yno claddasant ben Bendigaid Frân. A thra fo'r pen hwnnw yn cael llonydd, ni ddaw gormeswr byth i orthrymu'r ynys hon.

Dyna fel y byddai'r hen Gymry yn adrodd hanes pen Bendigaid Frân.