Tudalen:Llyfr Owen.pdf/50

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XI

YR HAUL A'R LLEUADI

1. YR ydych chwi wedi dysgu yn yr ysgol mai pelen aruthrol o dân ydyw'r Haul, ac mai o honno y caiff y planedau a'u lleuadau eu gwres, eu goleuni, a'u bywyd. Yr ydych wedi dysgu hefyd mai byd bychan—oer ac heb fywyd, medd rhai—ydyw'r Lleuad, yn troi o gylch y Ddaear bob mis, a'r ddwy yn troi o gwmpas yr Haul mewn blwyddyn.

2. Pan oeddwn i 'n blentyn fel chwi, dywedid llawer o hanes yr Indiaid Cochion wrthym. Yr adeg honno yr oeddynt yn ymladd yn erbyn yr ymfudwyr gwynion o Gymru a gwledydd eraill, ac yn sicr yr oeddynt yn greulon iawn. Hwy oedd pobl lluosocaf yr America unwaith; ond erbyn heddiw nid erys ond ychydig ohonynt.

Ar hela yr oeddynt yn byw, yn enwedig hela'r ych gwyllt a'r carw. Yr oeddynt yn fuandroed iawn, ac yn saethwyr medrus â'r bwa. Nid oedd eu bath am bysgota ychwaith. Addurnai'r dynion eu pen â phaent a phlu amryliw, yn enwedig pan ymdeithient i ryfel. Yr oedd amryw lwythau ohonynt,—yr Auron, y Siawnî, y Sion, y Traed Duon, yr Obidsewê, ac eraill,—ac yr oeddynt beunydd mewn rhyfel ffyrnig â'i gilydd. Byddai y plant yn dioddef llawer yn y rhyfel, ac yn y gaeafau celyd, pan fyddai'r ymborth yn brin.