Tudalen:Llyfr Owen.pdf/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

3. Anghofiais ddweud un peth. Mewn llawer hen ystori dywedir bod gwlad hyfryd dan y môr, ond na fedr ei thrigolion ddod i oleuni haul heb gael benthyg croen morio. A chofiais ar unwaith fod boneddigesau ein dyddiau ni, yn y gaeaf, yn hoff iawn o wisgo croen morlo.

Y morlo, yn siŵr gennyf fi, a wnaeth i bobl ddychmygu bod môr-forwyn yn bod. Hawdd y gellid dychmygu, pan welid per morlo, yn codi trwy'r don gyda phen crwn a llygaid erfyniol, mai môr-forwyn oedd yn nofio yno. O dipyn i beth daeth morwyr i wybod am werth eu crwyn. a lledir hwy bob blwyddyn wrth y degau o filoedd. A gwêl pobl Llundain hwy yn chwarae, yn dringo ac yn eistedd ar gadeiriau, ac yn cusanu eu ceidwaid, ond mynd am dro i erddi'r Sŵ.

Ond arhoswch ennyd cyn gadael y môr-forynion. Gwyddoch fod y glaw a'r afonydd yn araf a graddol gludo'r ddaear i'r môr, ac yn gosod y llaid i orwedd ar waelod y moroedd. Os felly, onid yw wyneb y dŵr yn codi? A beth, ymhen miliynau o flynyddoedd, os bydd y dŵr wedi cuddio'r ddaear i gyd?

Os daw i hynny'n raddol bydd dyn wedi ei gyfaddasu ei hun ar gyfer y newid. Medr fyw yn y môr yn ogystal ag ar y tir erbyn hynny. A phan ddaw yr adeg bell honno, oni fydd môr-forynion mewn gwirionedd?