Yno, y mae hithau yn pigo allan groenwisg ei mab, Olafìtinus, ac yn troi yn ôl tua'r môr yn hoyw lawen,—y cytundeb wedi ei gadw yn anrhydeddus o'r ddwy ochr. Ac yn fuan y mae Olafitinus yn dychwel, gyda chalon ddiolchgar, tua'r trigfannau dedwydd o berlau a chwrel dan waelodion tawel Iwerydd.
XIX
TY'N Y GWRYCH
1. GER y fferm y magwyd fi ynddi y mae olion Ty'n y Gwrych. Yr oedd y tŷ mewn lle hyfryd iawn. Mae'r masarn a'i cysgodai eto'n aros, ac odditanynt ceir golwg ar rai o fynyddoedd mwyaf Cymru. Odditano dawnsia afon mewn glyn cul rhamantus, gan furmur a sisial. Weithiau wedi glaw mawr ar y mynyddoedd, bydd rhu ddwfn, brawychus, yn y ceunant. Ar gwr y cae y mae pistyll o ddwfr hyfryd i'r genau. Ni welais i neb yn byw yno, er fy mod yn hen. Ni welodd fy nhad neb yn byw yno chwaith, er ei fod ef yn llawer hŷn na mi pan fu farw. Ond unwaith, adroddodd ystori wrthyf, a glywsai gan ei dad ef.