Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/119

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

feddwl am lawer o opiniwnau, tra fych di dy hun yn gwneuthur llawer peth yn erbyn dy gydwybod. Gwna, O! Eryr, dy orau i rwystro pob drwg, ac i rwyddo pob da, yn y wlad oddifewn ac oddiallan. Na chwsg ond hynny yn nhommen y cnawd (O! Swyddog). Pryn dy amsEr. Na âd ir syrthni, ar ymborthi diofn, ar balchder, ar oferedd lyngcu dy einioes di a'th deulu. Canys y peth a bassio unwaith ni elli moi alw yn ol. Gorchymyn heddwch a threfn dda (od oes awdurdod genit yn y wlad) O! Ustus. Na ad i'th gymydogion fyw fel anifeiliaid direswm. Cosba bawb ar a weithredo ddrwg yn erbyn ei gydwybod, fel y dywedaist di dy hun o'r blaen. Nid digon dywedyd heb wneuthur. Ac os cais neb gelu ei oleuni, ymresymma ag ef yn ofn Duw. Dymma'r ddamnedigaeth, fod dynion yn caru'r tywyllwch yn fwy na'r goleuni'r ynddynt, ac yn mynd felly yn yrroedd i'r lladdfa. Caffed pob drwgweithred genit y gosp a haedde. Na ddyger bywyd dyn am anifail. Bydd dad-maeth i ddaioni ym mysg pawb, ac nid fel Nimrod yn lladd ac yn llyngcu y cwbl ei hunan.[1] Na chais chwaith ystwytho cydwybod neb i'th opiniwn di drwy rym, ond drwy reswm, a chadw heddwch i bob un i ddywedyd ei feddwl, os heddychlon yw. Mae opiniwnau'r cyndyn mor aml ai dyddiau, ac mor anwadai ai llygaid. Mae llawer o groes ffyrdd, yn llawn lladron hyd yn hyn, ym mhedair congl y ddaiar. Os troi di oddiar y ffordd, di a gwympi iw dwylaw nhwy. Am hynny, gochel, meddaf, fel dymma'r dyddiau diwaethaf, dyrrysaf, perycclaf. Dy waith di yw dy wadu dy hun, derchafu Mab Duw, caru pob dyn, cashau pob pechod, ymnythu yn Nuw yn unig, disgwyl yn arafaidd am ei bleser ef, ymestyn ymlaen at y perlau tragywyddol, cadw gynhwyllin dealldwriaeth y seinctiau o'r blaen; gochel fluwch o wybodaeth yn y pen, heb nerth yn y galon a phurdeb yn y bywyd. Ac edrych am ddydd y farn bob munud, a chais heddwch, a châr wirionedd, a gwir Dduw'r dangneddyf ar goleuni a fydd gydath di, ac ynot ti. Ond onis gwnei yn ol fy

  1. Genesis x. 9.