lleill a ymroant. Ac wrth hyn y cai di adnabod y pechod hwnnw: fe reolodd yn dy henafiaid; mae dy feddyliau dithau nos a borau yn hedeg ato (fel brain uwch ben burgyn.) 'Pechod yw, am yr hwn y mae dy gydwybod yn dy gyhuddo, a'th elynion yn dy gywilyddio, a'th wir gyfeillion yn dy rybuddio. Gochel hwnnw (yn anad un) beth bynnag yw. Cofia ym mhob cwmni dy fod di ar dy daith tua'r byd bythol, ac ystyria gwymp yr Adda cyntaf, a chodiad yr Ail. Cwympaist yn ddiammau gyda'r cyntaf: cyfod heb ammau gyda'r Ail hefyd. Na dderbyn un athrawiaeth cyn i chanfod. Na wrthod un gair cyn i holi, ac na chwda oddiwrthyt mor gwirionedd a dderbyniaist unwaith. Na choelia mo sŵn y wlad, ond gwrando beth a ddywaid Duw wrth dy enaid anfarwol di: onid oes ynot waelod pob gwybodaeth a rhinwedd, ni elli di wneuthur y pethau hyn. Ond os oes, bydd ysbrydol ddisigl yn dy feddyliau,1 nid fel tonn y môr, neu ewyn y dwfr, neu bren diwraidd, mewn tymhestl, neu long heb angor, neu ûs anwadal. Bydd anaml mewn geiriau, ac aml mewn gweithredoedd nefol gorchestol. Ac wrth ddywedyd cofia mai mewn llawer o eiriau nid oes ball ar bechod; ac er hynny, na fydd fudan (canys gwefusau'r cyfiawn a borthant lawer) 2 Wrth geisio derbyn mwy o'r Ysbryd da, gochel rhag i'r un drwg ruthro i mewn yn ei fantell ef. Mae rhai lloerig, a rhai dieflig, ar gelyn yn marchogaeth ar sûg ac ar humors eu cyrph nhwy: mudion a byddariaid yn malu ewyn, yn llygadtynnu ac yn synnu'r gwirion. Mae eraill, fel y Bedyddiwr, yn dyfod heb na bwytta nag yfed, ac meddant, Wele gythrael ganddo: ond rhaid i ti brofi'r ysbrydoedd. Ac llei bo (meddaf) oleuni, a phurdeb, a chariad, a gostyngeiddrwydd, yno y mae Duw ei hunan yn aros. Gochel y ffyrdd Pabaidd hefyd,5 nid am nad oes ddysceidiaeth yn ei mysg, ond am mai creulon fuont wrth bawb eraill; am hynny, tywelltir phiolau dialedd ar y genhedlaeth honno. Na ddotia wrth
1 Iago i. 2 Diar. x. 19, 21. 3 Mat. xvii. 15. 4 Mat. xi. 18 5 1 Tim. iv. I, 2.
6 Dat. xvi. 6.