Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/117

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

hoffi pan fo amser wedi terfynu. Canys yr wyf dan gariad Duw, er fy mod dan gerydd pawb. Gwael yn y tir, llwyd gan mor llawn o brofedigaethau, ond llawen mewn gobaith gogoniant nefol. Yn y cyfamser yn rhodio mewn maes ysbrydol, ymysg defaid, ac yn rhybuddio'r geifr na thorrant ei gyddfau. A gymmero rybudd, cymmered; fy nhasg i yw bod yn ddiniwed ymysg dynion; ac oni allai les i bawb, gochelyd gwneuthur afles i neb; a cheisio byw allan o Hunan, yn yr Ysbryd Glân, ar Ghrist, i Dduw, yn ol yr yscrythurau, etto dan ordinhadau; uwchlaw'r byd, islaw'r groes; yn erbyn pechod, ac ar du sancteiddrwydd; ym monwes Craig yr Oesoedd, yn blino ar gwrs naturiaeth, yn brefu am y ffynnon nefol, ac yn gweddio ar i Dduw roddi heddwch nefol a llawnder gwirionedd i'r Cymry tirion, i'w porthi a gwybodaeth ac a deall ysbrydol,1 ac i'w llenwi a holl lawnder Duw, ac ar i minnau gael cyfran o'r rhandir nefol ymysg y rhai cywir mewn duwioldeb, ac ar i'r amser fryssio pan na bo rhyfel yn unlle ond ymhyrth Satan ai angelion (a hynny a welaf). Jabez a weddiodd, a Duw ai gwrandawodd; fe ofynodd bed war peth ac ai cafodd. Disgwil yr wyf finnau ar y Duw dinewidiad, yr hwn a ddichon wneuthur mwy nag a allwn i ofyn, nai feddwl. Iddo ef y bo'r glod, ar mawredd, ar doethineb, ar diolch, ar deyrnas, ar cariad, ar cwbl yn dragywyddol.4

Er. Mae'r amser yn dylifo fel pellen ymmaith. Rhodded y golomen un gair o gyngor etto ir Eryr cyn ymadel.

Col. Deall a dilyn yr hyn a glywaist yn barod. Canlyn y llusern a roddwyd i ti. Gochel wyau'r neidr a'r gigfran yn dy resymau dy hunan. Na reoled ysbryd y creadur ynot, canys y sawl a ymlenwo ar creadur, sydd wag fynychaf o'r Creawdr. Na chais fod yn llawn meddyliau. Gwell yw un meddwl difrif nefol mewn diwrnod, na phum cant o rai disclair naturiol. Mynn ddifa dy arglwydd bechod oddifewn, a'r 1 Jer iii. 15. 2 Eph. iii. 19. 3 I Chron. iv. 10. 4 Eph iii. 21. 5 Esay lix. 5.