gwas. Nid hunan sydd ymma yn dy gymmell, ond gwir serch at Dduw, a chariad ffyddlon (yn nesaf) at y Cymry. Nid wyti nag eraill nês er gwario o honot dy amser byr mewn anghrediniaeth a diffrwythdra; ac fe gaiff rhai ganfod dealldwriaeth allan o'r niwl ar tywyllwch.[1] Ie, er nad yw dy gnawd di yn deall beth y mae'r Ysbryd Glân ynot yn i ysgrifennu, mae rhan ysbrydol ai cenfydd. Nid oes chwaith fawr lyfrau Cymreig yn Nghymru er pan loscwyd papurau y Bruttaniaid gynt; ac (medd Duw) fy mhobl i yn Nghymru a ddifethir o eisiau gwybodaeth.[2] Ac am danat ti dy hun, nid gwaeth pa amharch a gaffech yn y cnawd; di haeddaist i Dduw dy wrthod ath adel mewn anialwch tragywyddol, ond ni âd Duw byth mo honot. Ac er nad Duw yw naturiaeth, ac er na ellir i adnabod drwy philosophyddiaeth, etto ni wnaeth ef mor byd ymma yn ofer, ond fe ai goscdodd fel drych i weled ei gyscod ef ynddo. Dydi hefyd (ebr y Golomen), a welaist Dduw ei hunan drwy ffydd, ac a glywaist ei lais ef ei hunan drwy'r ysbryd sydd yn llefaru wrth ddynion, Ac er bod rhan o'th amgylch mor anheilwng ar gwaethaf, mae er hynny y dyn oddifewn heb bechu, a chantho law ym mhob daioni, yn ceisio llês i bawb. Ac wrthyt ti (O! hâd anllygredig, a llîn yn mygu), yr wyf yn dywedyd eilwaith, Cyfod, a dôs ymlaen yn ostyngedig, yn ofalus, yn ddioed, ac yn ddiolchgar. Fel hyn y darfu i'r Golomen atteb holl resymau'r Sarph, a dattroi y rhaff a nyddase hi yn y meddwl. Wele (O! Eryr), dymma ran o lais un o'r rhai llescaf om dilynwyr i. Dymma ychydig o lawer.
Er. Beth hefyd?
Col. Mae un ymhellach, yn llefaru fel hyn:—Byr yw fy helynt i o'r dechreu i'r diwedd, fy einioes sydd fel afon chwyrn yn rhedeg i'r môr; fe am ganwyd ymysg creigiau, fe am magwyd mewn opiniwnau, fe am maglwyd dros amserau, fe am rhyddhawyd mewn amser cymmeradwy, fe am carwyd cyn dechrau amser, a minnau byth a gaf garu yr hwn am carodd ai lawn