Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/115

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Iericho, ac yn ceisio gweiddi am help, ond yn methu gweddio, nes i'r Samaritan bendigedig, sef yr Achubwr nefol, ddyfod attaf am codi i fynu. A hyn oll yr wyf yn i ddywedyd er dy fwyn di, fel os doi dithau byth i'r gwasgfeydd ymma am y pechod, na ymollwng mewn anobaith a thristwch bydol, ag nag ymgura fel dafad yn y mieri, ond disgwil yn llonydd wrth fin y ffordd. Fe ddaw'r Prynwr heibio, ac a'th ollwng di yn rhydd. Ac onide, os derfydd am danat, darfydded am danat yn ei freichiau ef, wrth ddisgwyl wrth ei air ai addewid ef. Ond os dilyni hyn, byw fyddi, yn ysbryd y nerth, ar cariad, ar pwyll. Roedd yn fy nghalon i ysgrifennu attat i'th rybuddio mewn cariad perffaith; ond fe ddaeth y sarph atafi, ac a geisiodd attal y pin ymma. Hi a boerodd ei chelwydd tuag attaf wrth sissial fel hyn: "Hunan sy'n dy osod ar waith. Rwyti yn scrifenu yn rhy dywyll, ni fedr neb mo'th ddeall nes i'th niwl di godi, ac nid wyt ti yn dy ddeall dy hunan; gâd yn llonydd, mae digon o wybodaeth gan ddynion, bei gwnaent. ar ei hol. Mae gormod o lyfrau yn barod yn y byd; dy holl wobr fydd cael dy adel fel tyllhuan yn y diffaethwch, fel pelican, ie, fel hurtyn, neu un o'r philosophyddion gweigion, yn ymofyn am oleuni naturiaeth i adnabod y Duwdod ynghreaduriaeth y byd. A welaist ti yr Arglwydd erioed? neu a glywaist ti Dduw ei hunan? Dòs i ryw dwll ac ymguddia. Mae dydd Duw wedi goleuo. Gorau i ti dewi, a gadael ymaith scrifennu. Gâd bawb yn llonydd, a'th gydwybod dy hun yn esmwyth. Bydd lawen. Bwytta dy fwyd a chalon iach. Rhodia a chymmer dy bleser, fel y gweli di bawb agos yn gwneuthur, ac yna fe estynir dy ddyddiau di ar y ddaiar." Wele, llyma fel y chwedleuodd y ddraig gyfrwys am fi, llyma fel y ceisiodd hi fy nwyllo i, llyma fel y gwnaeth hi ei gwaethaf i rwystro'r meddwl, i selio fy ngenau, ac i attal fy llaw. A phei cawse y sarph i meddwl, ni chawswn i nag ysgrifenu hyn, na thithau nai ddarllen nai wrando. Ond fe ddaeth y Golomen ac am helpodd, ac a'm cynnorthwyodd, gan ddywedyd, Dos ymlaen. Rhaid i bob gwas arfer ei dalent (er a ddywetto dynion), ac onide gwae'r