ar frefiad y gwan yn llefaru ac yn traethu. Wrth naturiaeth marw oeddwn, a phan welais i hynny mi a geisiais fyw, ond nis gallwn nes i bob peth ynof ac om hamgylch farw i mi; ac yno y collodd y creadur ei afael arnaf, ar munud hwnnw y cefais afael ar y Creawdr, neu yn hytrach efe a ymafodd ynof fi, O'r blaen mi a glywais bregethau, ond nid oeddwn i yn gwrando; mi ddywedais weddiau, ond nid oeddwn í yn gweddio; mi genais Psalmau, ond mud oedd fy nghalon; mi Sacramentais, ond ni welais gorph yr Arglwydd; mi ymddiddenais ac a ddywedais lawer peth, nid o'm calon mewn gwirionedd, nes i'r rhosyn darddu ynof. Ac wedi'r holl gynnwrf, rhaid oedd diwedd or diwedd cyn dechrau, a marw cyn i'r wenhithen dyfu drwy fy_naiar i. Fe fywhaodd pechod, ac am lladdodd i. Roedd Duw wedi digio ac yn gwgu ynghadair fy nghydwybod, a diafol yn gwenu ac yn chwerthin am fy mhen i, ac yn gwaeddi o'r tu fewn, "Ho, ho! myfi piau'r aderyn
-mae fo'n siwr yn y fagl. Mae ei feddwl ef mewn tair o gadwyni heiyrn: yn ffast yn ei ewyllys ei hunan, ac yn ysbryd y byd mawr, ac yn nigofaint y Brenin. mawr gydam fi." Mi ofnais hefyd na ellid byth dorri mor tair cadwyn hynny i'm gollwng i yn rhydd. Heb law hyn hefyd, fe ddaeth bytheiaid Satan ar fy ol i dan. olrhain; gwatwarwyr y wlad am gwawdiasont; a phan welodd yr Heliwr nad oedd gennif fatter beth a ddywede'r byd ai fytheiaid, fe gynhyrfodd blant y deyrnas, a rhai (megis) o blant y Brenin, im ceryddu, im digaloni, im rhwystro ac im hoeri. Pan ballodd hyn hefyd, fe ddeffrôdd y gelyn holl wreiddiau uffern o'r tu fewn i mi fy hunan, i fod yn ddigllon, yn aflan, yn greulon, yn benwyllt, ac yn llawn o wreichion drwg, yn fydol, yn sarrig, yn suddo, yn oferfeddwl; ac yno'r oedd yn flin gennif fyw ac yn ofnus gennif farw, am nad oedd bechod yn y dyn gwaethaf a welwn nad oedd ef yn ceisio codi i ben i fynu yn fy nghalon i. Roedd y Nef wedi ymadel, ac uffern yn neshau, ac angelion Duw yn ymddieithrio, a delwau anifeiliaidd yn ymddangos. Roeddwn i yn gweled fy mod i wedi cwympo ymysg lladron ysbrydol anrhugarog, rhwng Caersalem a