Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iwr wedi iddo gwblhau ei addysg. Taflwn yr awgrym i'r darllenydd, fel awgrym, ac nid fel ffaith. Ni wyddom pa bryd y priododd, pa bryd y dechreuodd bregethu, nac ychwaith yn mha le yr oedd ei gartref sefydlog am y rhan gyntaf o'i fywyd cyhoeddus. Ond hyn sydd sicr, pa alwedigaeth bynag y bwriadai ei rieni ei ddwyn ef i fynu iddi, mai yn efengylwr i drigolion Gwynedd y bwriadodd Duw iddo fod. Yr oedd yn llestr etholedig i hyn. Arweinir ni i gredu iddo fod am gryn amser dan argyhoeddiad; dygodd hyn ef i deimlo ar ran eraill; enynwyd tân ynddo, a dechreuodd lefaru â'i dafod; ac wedi iddo ddechreu ni bu i ddim ei ddystewi nes iddo huno yn yr angau.

Yr oedd sefyllfa grefyddol a moesol yr oll o Gymru yn resynol y pryd hyn; rhoddir i ni bortread du iawn o'i chyflwr ysprydol gan rai oedd mewn mantais i wybod yn dda am dani. Ni phrofodd ond ychydig iawn o ddylanwad y Diwygiad; ac athrawiaeth Eglwys Rhufain a bregethid yn yr Eglwys yn Nghymru, wedi iddi ddyfod yn Eglwys Loegr. Nid oedd yr ychydig enwau rhagorol ag yr ydym ni yn gydnabyddus â hwy ond eithriadau. Boddlonai y lluaws i'r ffurf hono o grefydd a adawai iddynt hwy y rhyddid a'r llonyddwch mwyaf i fyw yn llygredig. Ac yr oedd "yr un fath, bobl ac offeiriad." Yr oedd Llyfr y Chwareyddiaethau wrth eu bodd; ac ni chafodd Laud ond ychydig o drafferth gyda'r offeiriaid Cymreig. Yr ychydig a wnaed i ymlid y tywyllwch a'i weithredoedd, yn Neheudir Cymru, a chan Ddeheuwyr, yn mron yn gwbl, y'i gwnaed. Penry, Wroth, Erbury, Cradoc, Powell, Ficer Prichard —Deheuwyr oeddynt; yn y De yn benaf y llafurient, ac ychydig yn ngororau Trefaldwyn a Dinbych. Bu Penry a Powell trwy ranau o Ogledd Cymru, ond nid i aros ond ychydig. Ond yn Morgan Llwyd dyma un "o Wynedd," ac i Wynedd. Diau y bu