Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei sefydlu yn Ngwrecsam mor foreu a 1603, gan yr Henadur Valentine Broughton, o Gaerlleon, yr hwn a'i gwaddolodd â 10p. yn y flwyddyn.[1] Yr oedd, o ran ei oedran, yn ddisgybl cymhwys i ysgol felly yr adeg y dychwelwyd ef. Yr oedd ysgol o'r fath wedi ei sefydlu yn Rhuthyn yn 1595, ac yno yr anfonwyd David Lloyd o'r Pantmawr, Trawsfynydd, cyn hir ar ol hyn.[2] Gallai fod mwy nag un achos iddo fyned am ei addysg i Wrecsam yn hytrach nag i Ruthyn, er fod y ffordd yn nes iddo yno. Un ydoedd, fod y cyfleusderau i fyned yno yn amlach, o gymaint a bod y dref yn ganolbwynt masnach y rhan hon o Ogledd Cymru yr adeg hono. Nid yw yn annhebygol chwaith fod rhyw berthynas neu gydnabod i'r teulu yn preswylio yno. Yma gallwn grybwyll nad oes genym hysbysrwydd yn mha le, nac yn mha fodd, y treuliodd efe ei amser o'i ddychweliad hyd nes y dechreuodd ar waith mawr ei fywyd. Pan y gwelsom y sylw ar ei "law-ysgrifen gyfreithiol," awgrymwyd i'n meddwl ai nid yn gyfreithiwr y bwriadwyd ei ddwyn i fynu, ac a oedd yno yn y dref hon swyddfa y gallasai fod ynddi i'r amcan hwn. Trigai un Syr Richard Lloyd yn Ngwrecsam yr adeg hon, yr hwn oedd y "Cyfreithiwr Cyffredinol " dros Ogledd Cymru, gwr oedd yn bleidiwr aiddgar i'r Brenin Charles, yr hwn a'i hurddodd yn Farchog, wedi iddo gael ei groesawu yn ei dŷ. Bu farw yn 1676, yn 71ain oed. Hanai ef o hen deulu y Dulasau yn Arfon, ac yr oedd iddo etifeddiaeth yn Meirion.[3] Gallai mai cydnabyddiaeth â'r gŵr hwn a fu yr achlysur i'w anfon yno i'r ysgol, ac mai yn ei swyddfa ef y bu yn ymarfer fel ag i ddyfod i ysgrifenu fel cyfreith-

  1. Lewis' Topographical Dictionary of Wales, ii. 437
  2. State Worthies, i., preface to the New Edition (1766)
  3. Civil Wars in Wales and the Marches, i. 115, 125; Cymru, ii. 198, 199.