yn Ngwrecsam y bu yn yr ysgol;[1] ond dywed eraill, "ni wyddis pa le yr addysgwyd ef.[2] Nid oes dadl nad yn Ngwrecsam yr argyhoeddwyd ac y dychwelwyd ef dan weinidogaeth Walter Cradoc; ac yn 1634 neu 1635 y cymerodd hyny le; o ran fe gymerodd Esgob Llandaf ei drwydded oddiar Cradoc—"being a bold, ignorant young fellow," ac. yn gwrthod ymostwng i gyhoeddi y Llyfr Chwareyddiaethau o'r pwlpud pan oedd yn gurad i William Erbury yn Eglwys Fair yn Nghaerdydd; ac y mae cofnod o hyn wedi ei anfon i'r Archesgob Laud, yr hwn a'i hanfonodd i'r brenin, dyddiedig Ion. 2, 1634.[3] Bu Cradoc yn teithio ar ol hyn trwy gyrau rhai o siroedd y De, ac arweiniwyd ef i Wrecsam, a bu yn gurad yn yr Eglwys yno, gan bregethu gyda'r fath ddylanwad fel y llanwai yr Eglwys ac y gwaghai y tafarnau, yr hyn fu yn achlysur i ryw fragwr o ddylanwad weithio yn ei erbyn, nes y llwyddodd i'w droi ymaith, pan nad oedd wedi bod yno ond am un flwyddyn. Yn y flwyddyn hono dychwelwyd Morgan Llwyd, a rhaid mai yn 1634 neu 1635 y bu hyny. Felly gwelwn yn lled glir ei fod yn Ngwrecsam pan yn 15 neu 16 oed; ond ni wyddom eto pa bryd y daeth efe yno, na pha bryd yr ymadawodd. Ni wyddom i sicrwydd chwaith ai yno yn yr ysgol yr oedd. Bernir i Huw Llwyd gael ei addysgu yn Nolgellau gan un o hen Fynachod Mynachlog y Cymmer.[4] Gallai fod yn Meirion fân ysgolion yn ei amser yntau, ac iddo dderbyn ei addysg elfenol yn agos i'w gartref, os nad yn ei gartref ei hun. Nid oedd llawer o Ysgolion Uwchraddol yn Ngogledd Cymru y pryd hwn. Ond deallwn fod yno Ysgol Ramadegol Rad wedi
Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/11
Gwedd