Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/10

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymwylltio.[1] Ymddengys oddiwrth hyn y trigai ei fam, oedd feallai yn weddw, yn Nghynfael y pryd hwnw. Yr oedd canghenau o'r un cyff mewn lleoedd eraill yn y gymydogaeth; a cheir yr enwau Huw a Morgan yn achrestrau Llwydiaid Plasmeini a'r Dduallt.[2] Os cywir yw fod i Huw Llwyd dri mab, a merch, nid yw yn debyg fod neb o'r tu allan i'w cylch hwy wedi d'od i'r hen gartref, ond bod ei fam ef yn wraig i un o ddisgynyddion Huw Llwyd. Gwell genym, gan hyny, dybied mai ŵyr, os nad yn wir gor-ŵyr, i'r hen fardd oedd Morgan Llwyd. Gwyddom iddo briodi, ond ni wyddom pwy oedd ei wraig. Dywedir gan rai mai at fam ei wraig yr ysgrifenai ei lythyrau. Y sail i'r dyb hon ydyw y geiriau canlynol a geir mewn llythyr o'i eiddo a ysgrifenodd ati yn 1657:—"Mae i chwi ŵyr fechan yma, a'i henw yw Elizabeth Lloyd—Canwyll a ennynodd Tad bendigedig yr ysbrydoedd, &c. Ond am eich merch, fy ngwraig annwyl, bu flin iawn arni y tro yma.[3] Ond ai nid yw yn llawn cyn tebyced ei fod yn galw ei wraig yn ferch i'w fam ei hun, ag ydoedd ei fod yn galw mam ei wraig yn fam iddo ei hun? Barnai y diweddar Ioan Pedr nad efe oedd y mab hynaf yn y teulu, gan nad oes wybodaeth i neb o'i hiliogaeth ef etifeddu y dreftadaeth.[4]

Cafodd addysg dda, ac yr oedd yn ysgolhaig gwych, er na cheir iddo fod yn un o'r prif athrofeydd. Yr oedd yn siaradwr hyawdl, ac yn ysgrifenwr rhagorol, yn y Saesonaeg yn gystal ag yn y Gymraeg; yr oedd ei "lawysgrifen yn un o'r rhai egluraf a thlysaf a welsom erioed. Gallem feddwl wrth ei lawysgrifen ei fod wedi cael ei ddwyn i fynu yn gyfreithiwr.[5] Dywed rhai mai

  1. Cylchgrawn Cynmraeg, rhif v, Chwef., 1794, 261.
  2. Hanes Plwyf Ffestiniog, 215, 216.
  3. Hanes y Bedyddwyr, 146.
  4. Can Anghyhoeddedig," &c., I.
  5. Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, iv. 7.