Un arall o'r teulu a enwogodd ei hun ag y cysylltir ei enw â Chynfael ydoedd Huw Llwyd, yr hwn oedd yn wr dysgedig, mewn sefyllfa dda, a wasanaethodd yn y fyddin yn Lloegr ac ar y Cyfandir dan Elizabeth, ac a ddychwelodd i dreulio diwedd ei oes yn ei dreftadaeth. Cydoesai â'r enwog Edmwnd Prys, yr hwn oedd yn Archddiacon Meirionydd, ac a fu am 52ain mlynedd yn weinidog plwyfi Ffestiniog a Maentwrog; yr oeddynt yn gyfeillion mawr, ac yn gymydogion agosaf, gan fod y Tyddyn Du, lle y trigai yr Archddiacon, yn ffinio ar Cynfael. Gelwir piler o graig sydd yn aros heb ei dreulio yn nghanol rhyferthwy yr afon Cynfael, ag sydd yn bumtheg neu ddeunaw troedfedd o uchder, yn "Bulpud Huw Llwyd," lle y dywedir yr elai i fyfyrio. Yr oedd yn fardd o fri. Gwnaeth Edmwnd Prys yr englyn hwn ar ei farwolaeth:—
"Pen campau doniau a dynwyd—o'n tir,
Maentwrog yspeiliwyd;
Ni chleddir ac ni chladdwyd
Fyth i'w llawr mo fath Huw Llwyd."
Nid yw yn debyg y daeth Morgan Llwyd i gydnabyddiaeth â'r Archddiacon, os na ddaeth wrth y bedyddfaen, gan mai pedair oed oedd pan y bu efe farw.
Y mae ansicrwydd pa un ai mab, ai nai, ai ŵyr i'r bardd Huw Llwyd oedd Morgan Llwyd. Bu Huw Llwyd farw yn 1620, yn llawn 80ain mlwydd oed; a ganwyd Morgan Llwyd yn 1619. Gallasai, o ran hyn, fod yn fab iddo. Ond dyma dystiolaeth hynafiaethydd o'r ardal:—"Nid oedd ganddo ef [Huw Llwyd] fab o'r enw Morgan; oblegyd Huw oedd yr hynaf, yna Dafydd, a Joseph, a merch o'r enw Gwen.[1] A ydoedd yn nai iddo, ynte? Cawn mewn llythyr o'i eiddo at ei fam, heb ddyddiad iddo, ond y bernir iddo ei ysgrifenu tua 1646:—"Gwilied H. Hughes, ac Efan, a chwithau yn nghynfel gysgu neu
- ↑ Llythyr "Wmffre Dafydd" (y diweddar Richard Williams, Ffestiniog), yn Maner ac Amserau Cymru, Hyd. 10, 1860, 862.