sefyll uwchben yr hyn sydd genym o'i hanes, a thynu ein casgliadau am y llawer sydd yn ansicr oddiwrth yr ychydig sydd yn sicr, gan nodi ein hawdurdod a'n rhesymau, fel ag i alluogi y darllenydd i farnu drosto ei hun.
Dywed Joshua Thomas, pan yn ysgrifenu yn 1778, wedi crybwyll am lythyr o eiddo yr awdwr, dyddiedig Mai 27, 1658:—"Mae'n debyg na bu ef hir yn fyw wedi ysgrifennu y Llythyr hwn, canys y mae Dr. Calamy yn dywedyd i Mr. Ambrose Moston ddyfod i Wrexham o gylch 1659.[1]" Dywed yr un awdwr yn 1780:—""Bu farw Mr. M. Lloyd y 3dd o Fehefin, 1659."[2] Yr oedd yr hanesydd wedi cael sicrwydd boddhaol erbyn hyn o'r dydd yn gystal ag o'r flwyddyn y bu efe farw; ac am a wyddom, hon yw y dystiolaeth foreuaf a feddwn. "Nid oedd dros ddeugain oed pan y bu farw.[3] Gan hyny, ganwyd ef tua'r flwyddyn 1619, a hyny, fel y tybir, yn Nghynfael; gelwir ef yn "Morgan Llwyd o Gynfael" yn 1799;[4] a mynegir yn 1875, mai "yn Nghynfael y ganwyd......Morgan Llwyd."[5] Nid oes. sicrwydd am hyn; ac felly dywedir gan amlaf "ei fod yn hanu o deulu Cynfael," o'r hyn nid oes. anmheuaeth. Amaethdy henafol ydoedd Cynfael, yn mhlwyf Maentwrog, ac yn sir Feirionydd. Ond yr oedd "braint" y lle yn hen Eglwys blwyfol Ffestiniog, ac nid yn Maentwrog;[6] saif ychydig i'r gogledd o'r ffordd haiarn o Ffestiniog i Drawsfynydd yn union wedi croesi'r afon Cynfael