Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/7

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bywyd, Llafur, ac Ysgrifeniadau

YR AWDWR.

Y MAE yn llawen iawn genym fod y Cymry yn cael un argraffiad arall o Lyfr y Tri Aderyn—prif-waith MORGAN LLWYD o Wynedd—fel y gallo y rhai sydd yn gwybod am dano, ond yn methu ei gael, sicrhau y trysor gwerthfawr yn eiddo iddynt eu hunain; ac y delo y rhai na wyddant am dano i'w feddu, ac i ryfeddu na buasent yn gwybod am dano yn gynt. Yr oedd wedi myned yn un o'r hen lyfrau prinion, gan fod tua thriugain mlynedd er pan argraffwyd ef ddiweddaf o'r blaen. Ni allwn lai na synu na buasai rhyw un wedi anturio ei gyhoeddi amser maith cyn hyn. Gŵyr y rhan fwyaf o'r Cymry am enw yr awdwr; o'r rhai hyny y mae y lluaws yn fwy hysbys o'i enw nag o'i ysgrifeniadau; a'r ychydig yn fwy cydnabyddus â'i ysgrifeniadau nag â'i hanes; ac ofnwn mai felly y bydd am amser i ddyfod, gan fod ein gwybodaeth am ddigwyddiadau ei fywyd yn brin iawn, er yr oll sydd wedi ei argraffu am dano; diau fod mwy i'w gael yn ysgrifenedig, mewn conglau tywyllion, a llwch oesoedd yn ei guddio ac yn peryglu ei ebargofiant bythol, oni bydd i ryw un ei ysgubo ymaith, a'i ddwyn i oleuni dydd.

Rhoddwn yma grynodeb o helyntion bywyd yr awdwr athrylithgar, a gofidiwn nad oes genym ddim newydd i'w gofnodi nad yw eisoes yn argraffedig; ac y mae cymaint o dywyllwch o amgylch yr ychydig ddigwyddiadau a adroddir, fel nad oes sicrwydd o barth i le ac amser en digwyddiad; nid oes i ni ond