bywiolaethau am y gwahanol achosion a nodwyd, nes yr oedd prinder gofalwyr am eneidiau, ac anhawsder i lanw lleoedd y rhai annghymhwys âg eraill oedd yn gymhwys ac mewn urddau. Yn mysg y rhai a drowyd allan yr oedd Rowland Owen, ficer Gwrecsam, a Henry Thomas, Ffestiniog a Maentwrog.[1] Tybiwn fod Morgan Llwyd wedi ymgartrefu yn Ngwrecsam yr adeg hon, os nad yn gynt, ac iddo barhau yno dros holl gyfnod y Weriniaeth, ac amddiffyniaeth Cromwell; a'i fod yn pregethu yn yr Eglwys yno yn achlysurol, ond nid fel ei gweinidog sefydlog. Dewisodd y lle yma fel canolbwynt i weithio Gwynedd ohono, yn debyg fel y gwna masnachwr teithiol. Cymerai ei daith i gyfeiriad Machynlleth, Pwllheli, Ffestiniog, Bala, a phregethai gyda dylanwad mawr, fel y bu yn offeryn i sefydlu rhai o'r eglwysi Ymneillduol cyntaf yn y Gogledd. Tebygol mai yr adeg hon y bu i'r digwyddiadau a goffheir yn Nrych yr Amseroedd[2], ac a ddyfynir mewn llyfrau eraill sydd yn ngyrhaedd y darllenydd, gymeryd lle. Dywed John Evans o'r Bala (Senex), am dano:—"Gwr tra enwog, yn ei oes, oedd Morgan Llwyd; o gynheddfau cryfion, dwys fyfyrdod, a symlrwydd duwiol. Fe fu yn fynych yn y parthau hyn yn pregethu; yn y Bodwenni [palas rhwng y Bala a Llandderfel], a manau eraill. Y rhai a alwyd trwy ei weinidogaeth ef oeddynt ddechreuad y gynnulleidfa gyntaf o Ymneillduwyr yn y fro hon."[3] Ni allwn wneud dim yn well na dyfynu yma yr hyn a ddywedodd un o'i gydoeswyr am dano, i roddi syniad i'r darllenydd am y meddwl uchel oedd gan y rhai oedd wedi ei weled a'i glywed am dano:—
Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/16
Gwedd