"Yr oedd Morgan Llwyd yn ddyn o'r fath gymeriad fel mai o'r braidd y gallwn ddweyd dim yn rhy dda a rhy fawr am dano. Yr oedd yn hynod am ei gariad at ei gydwladwyr, er lles eneidiau y rhai yr ymroddodd yn gyfangwbl, i'r hyn yr oedd yn dra chymwys, yn gymaint a'i fod y Cymro mwyaf trwyadl a chywir, a'r areithiwr mwyaf hyawdl, ond odid, a fu erioed yn y swydd weinidogaethol, yr hyn nad oedd yn un rhwystr i'w rwyddineb yn yr iaith Saesoneg. Yr oedd yn rhagori yn ffrwythlonrwydd ei ddychymyg, yn nerth ei gof, ac yn nadblygiad cynarol ei alluoedd, gan nad oedd ond deugain oed pan y bu farw; rhagorai mewn cariad ag oedd yn gyffredinol ac nid yn gyfyngedig i blaid na chred; mewn sancteiddrwydd buchedd, mewn diwydrwydd yn ei efrydiau, mewn myfyrdod diflino, mewn gallu i ysbrydoli pob peth, ac yn ei ymchwiliadau anmhleidiol a diragfarn am y gwirionedd; yr oedd yn hynod hefyd am ei ostyngeiddrwydd, ei addfwynder, ei arafwch, ei sobrwydd dwys, a'i haelioni parod a gwastadol i'r tlawd, ag oedd, fel yr haul, yn tywynu ar y drwg yn gystal ag ar y da. Rhoddai esampl dda yn ei ofal am addysgu ei blant; yn ei ddifrifoldeb, yr hwn nid oedd na ffurfiol na thrahaus, ond yn ddiffuant a hynaws, nes y parai ryw ofn parchus ar bob cynulliad y deuai iddo; yn yr urddas dyeithriol ac anarferol oedd i'w ymddangosiad pan yn y pwlpud, nad oedd annaturiol na mursenaidd, ond oedd yn gwbl naturiol, ac etto yn nefolaidd ac ysbrydol iawn. Mewn gair, nid i radd gyffredin yr oedd unrhyw ragoriaeth ag oedd ynddo ef, ond yr oll i radd anghyffredin. Dyna y fath ddyn oedd hwn, Morgan Llwyd; ac yn sicr nis gallasai y cyfryw un fod yn ddyn mor beryglus ag y mae Mr. Baxter yn ei gamliwio. Na allasai; bu yn fendithiol i'r byd mewn llawer ffordd; ond erioed ni bu iddo ei ddrygu na'i niweidio o gwbl, oddigerth mewn un peth, nas gallasai ef wrtho, a dyna oedd hyny, iddo ei adael yn rhy fuan."[1]
Rhanai ef ei hun ei oes yn bum' rhan mewn cynifer o benillion, yn ei ddull cyfriniol ei hun; ac yr ydym yn awr wedi ei ddilyn hyd yr olaf. Dyma ei "Hanes Ysbrydol:"[2]
1. Ei gyflwr wrth natur:—
"Ym Mynydd yr Olewydd trwy lais
Y cefais enedigaeth;
Mynydd llygredig yn fy ngwlad,
Dechreuad fy naturiaeth.