2. Ei Argyhoeddiad:—
"Ym Mynydd Sinai gwedi hyn,
Mewn dychryn y lletŷais:
Dan fellt y gyfraith bum yn hir;
Ar Maelawr dir dihunais.
3. Ei dangnefedd trwy gredu:—
"Ar Fynydd Sion gwelais hedd,
Trugaredd, a hyfrydwch;
Wrth fyw trwy ffydd ar Dduw a'm gwnaeth,
Trwy Grist, mewn hiraeth, heddwch.
4. Yn y rhyfel [1. Cartrefol. 2. Ysbrydol]:-
"I Fynydd Gilboa rhaid nesâu,
Mewn arfau a rhyfeloedd,
Lle y bu pawb yn gwneuthur plaid,
Yn danbaid yn eu hoesoedd.
5. Yn ymyl Gwlad yr Addewid:-
"Yn olaf daethum i roi tro,
I Fynydd Nebo hardd-deg;
Oddiyno gwelais Ganaan wych,
Lle caf wrth edrych 'hedeg.
—Morgan Lloyd a'i gwnaeth,"[1]
Nis gallwn ddyfalu paham y geilw ei gyflwr wrth natur yn "Fynydd yr Olewydd." Dynoda "Maelawr" y wlad y saif Gwrecsam ynddi; a "Gilboa," ni dybiwn, y rhyfel â'r brenin, yn yr hwn y dienyddiwyd ef, gyda chyfeiriad, feallai, at farwolaeth Saul, brenin Israel.
Yn y blynyddoedd diweddaf o'i oes yr ysgrifenodd efe y llyfrau a gyhoeddwyd. Ymddangosodd y cyntaf yn 1653, a'r olaf yn 1657, pan oedd yn nghanol ei lafur a'i lwyddiant yn ngwaith mawr ei fywyd; ac yn y rhai hyny "y mae efe wedi marw yn llefaru eto." Ni wyddom ddim am amgylchiadau ei farwolaeth. Y mae yr hanesyn canlynol yn peri i ni dybied mai disymwth a fu, heb fod ei gydlafurwyr yn gwybod fod perygl. Dywed Joshua Thomas:—"Mi a glywais fod rhyw "Can Anghy-
- ↑ Gwel y Traethodydd, 1876, 407 (dyfynedig a choeddedig," &c. H. Evans, Bala)