Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bwys neillduol ac argraph ar feddwl Mr. Vavasor Powel y nos y bu farw Mr. Morgan Lloyd, ac iddo ddywedyd wrth y rhai oedd gydag ef eiriau o'r natur hyn: 'Aeth y seren ddisgleiriaf yng Nghymru dan gwmmwl heno:' er na wyddai ef ddim y pryd hyny am y farwolaeth a ddigwyddasai."[1]

Bu farw yn ieuanc, wedi gwneud gwaith mawr, yn wyneb llawer o anhawsderau. Bu fyw mewn amseroedd blinion, ond cymerwyd ef ymaith cyn yr amserau mwy blin i Gymru a ddechreuasant ar ddyrchafiad Charles yr Ail i'r orsedd. Tair blynedd wedi ei farw y trowyd y ddwy fil o'r gweinidogion duwiolaf o'r eglwysi, ac y profwyd erledigaeth chwerw, na phrofasid yn Ngogledd Cymru onibai am lwyddiant Morgan Llwyd a'i gydlafurwyr, gan na buasai yno rai i'w herlid oni buasai fod yno rai wedi eu dychwelyd trwy eu gweinidogaeth hwy, Gwnaeth ef ei ran yn ei ddiwrnod. Ond "ei haul a fachludodd tra yr oedd hi yn ddydd." Bu farw Mehefin 1659, ddau cant a deg-ar-hugain o flynyddoedd i eleni. Claddwyd ef yn mynwent Rhosddu, gerllaw Gwrecsam, yr hon a berthynai i'r Ymneillduwyr. Ysgrifenai y diweddar Barch. John Hughes:—" Dywed Robert Jones, yn Nrych yr Amseroedd, iddo ef weled darn o gareg ei fedd, â'r llythyrenau 'M. LL.' arni. Gallaf finau dystio yr un peth; cyfeiriwyd fy sylw aml waith at y darn careg, gan yr hen wr a fyddai arferol o dori beddau yno. Dywedir i ryw wr boneddig tra erlidgar, yn ei gynddaredd wrth fyned heibio, frathu ei gleddyf hyd at y carn i'w fedd ef."[2] Clywsom fod heol wedi ei gwneud yn awr trwy ganol yr hen fonwent, a thros feddrod yr hen efengylwr, ond fod y darn careg hwnw, neu un arall, yn dynodi y llanerch lle y dodwyd ei lwch i orwedd.

Ni buasai genym ond syniad anmherffaith iawn am alluoedd Morgan Llwyd onibai ei fod yn awdwr

  1. Hanes y Bedyddwyr, 146.
  2. 2 Methodistiaeth Cymru, i. 38,