yn gystal ag yn bregethwr. Dodwn yma restr o'i lyfrau, ac o'r gwahanol argraffiadau ohonynt, cyn gyflawned ag y gallwn:—
I. "Dirgelwch i rai i'w ddeall ac eraill i'w Watwor, neu Lyfr Tri Aderyn," [mewn argraphiadau diweddarach rhoddir yn lle y geiriau olaf "Sef Tri Aderyn yn ymddiddan, yr Eryr, a'r Golomen, a'r Gigfran. Neu Arwydd i Annerch y Cymru yn y flwyddyn 1653 cyn dyfod 666."]
Arg. 1af, 1653. 2il, 1714, 32plyg. 3ydd, 1752, 16plyg. 4ydd, 1778 (Gwrecsam, Marsh), 16plyg. 5ed, 1826 (Caernarfon, L. E. Jones), 12plyg. 6ed (tua 1829, Llanrwst, J. Jones), 12plyg.
2. "Gwaedd yn Nghymru yn wyneb pob Cydwybod euog."
1af, 1653. 2il, 1727 (yn cynwys yn ychwanegol Lythyr i'r Cymru Cariadus," a'i "Hanes Ysprydol," a Rhagymadrodd Thos. Williams, Mynydd bach, awdwr yr "Oes-Lyfr." 3ydd, 1750 (Amwythig, Durston), 16plyg; gelwir hwn yn Ail Argraphiad, ac y mae ynddo Lythyr at y Darllenydd gan Dafydd Jones o Drefriw, ac Englynion gan amryw feirdd yn y diwedd; hwyrach mai Ail Argraphiad o'r Ail Argraphiad a olygir. 4ydd, 1766 (Caerfyrddin, J. Ross), 12plyg; ad-argraphiad o'r un blaenorol.
3. "Gair o'r Gair, neu Sôn am Swn, y Lleferydd Anfarwol." Ychwanegir at hyn yn yr 2il a'r 3ydd arg. Yr hwn trwy'r Byd a glywir yn mhob faith dan y Nefoedd; ac yn mhob Tafod-iaith hyd Eithafoedd y Ddaear. Gan Morgan Llwyd, Gweinidog yr Efengyl yn Wrecsam, Sir Ddinbych."
1af, 1656 (Llundain), 24plyg. 2il, 1745 (Caer-Ferddin, Samuel Lewis). 3ydd, 1829 (Merthyr Tydfil, Benjamin Morgan), 12plyg.
A Discourse of the word of God. Translated by Griffith Rudd. 1739."
4. Yr Ymroddiad: neu Bapuryn a gyfieuthwyd ddwywaith i helpu'r Cymru allan o'r hunan a'r drygioni."
1af, 1657. 2il, 1737 (Mwythig, Durston). 3ydd, 1765 (Mwythig, W. Williams), 24plyg.
5. "Cyfarwyddyd i'r Cymro."
1af, 1657. 2il, 1737 (Mwythig, Durston). 3ydd, 1765 (Mwythig, W. Williams), 24plyg.
6. "Y Disgybl a'i Athraw, O Newydd."
1af, 1657. 2il, 1765 (Mwythig, W. Williams), 24plyg.
7. "Gwyddor Uchod" (barddoniaeth).
1af, 1657. 2il, 1765 (Mwythig, W. Williams), 24plyg.