Er. Nage. Rhaid wrth gynghor y golomen. Gwrandawn ar bawb, a dewiswn y gorau. Pa le yr wyti (O, golomen!) yn lloches y grisiau? Gad i ni glywed dy lais dithau.
Col. Os cair cennad (ac onide) mae ewyllys i ddangos dirgelwch y dwfr diluw, a'r hen fyd a'r newydd; da gennif ddwyn y ddeilien lâs, a newydd da i'r rhai a achubir. Ac mi ddylwn gael cennad i ddywedyd y gwir yn llonydd am danaf fy hunan, ac am bob aderyn arall.
Er. Dos rhagot. Ni rwystra neb di: di gei gennad i fynd ymlaen.
Col. Mae gennifi etto lawer ynghylch yscrythurau ac eneidiau dynion, ynghylch teyrnasoedd a rhyfeloedd, Arch y dystiolaeth, a chodiad y seren ddydd, Haul y cyfiawnder, a dydd y farn, diwedd y byd hwn, a dechrau'r byd arall, naturiaeth Duw, a natur dyn, nef ac uffern, a llawer o fatterion eraill. Ond mae'r gigfran yn anhywaith, ni chair son am ddim daioni o'i bodd hi.
Er. Ond mae Noah wedi peri i mi, 'r Eryr, lonyddu'r Gigfran, a chadw heddwch ymysg Adar: ac fel yr ydym ni, 'r Eryrod, yn gryfach na'r cigfrain, felly mae'r da yn gryfach na'r drwg.
Col. Beth a fyn yr Eryr i wybod? ac am ba'r y newydd y mae yn ei feddwl ymofyn ?
Er. Mi fynnwn wybod genniti pa beth yw dirgelwch Arch Noah; a chan fod y dychryn, a'r diluw, a'r rhyfel, a'r rhwystrau, a'r gwae, a'r gwagedd, a'r camwedd wedi parhau cyhyd ar y ddaiar; pa bryd y ceir diwedd ?
Col. Cyfrinach yw Arch Noah iw ddangos i rai, canys nid yw'r adar drwg, nag yn deilwng, nag yn ewyllysgar iw glywed: Ond am y ddeilien wyrdd, a'r newydd da, fe baid y dwfr diluw pan bregether yr efengyl dragwyddol drwy'r holl ddaiar.
Er. Onid yw'r pregethwyr yn i phregethu hi ymhob plwyf yn barod ar i rhedeg, ac yn parablu, ac yn darllain yr efengyl i ni yn ein sefyll ?
Col. Nag ydynt, gan mwyaf: Nid adwaenant