Dduw, mwy nag y mae'r twrch daiar yn adnabod yr haul, neu blant Eli yr hwn ai gwnaeth.
Er. Ond mae nhwy yn dywedyd mai pregethu'r efengyl y maent i gyd.
Col. Ie, os yr un llais sydd gan y gigfran a'r golomen, neu os yr un fath yw cyfarthiad cŵn a lleferydd angelion. Ac nid un o ddefaid yr Oen nefol yw'r hwn ni ŵyr nad blaidd yw bugail, ac nad bugail yw'r blaidd.
Er. Ond beth (meddi di) yw'r ddeilien lâs a'r efengyl dragwyddol ?
Col. Arwydd fod digofaint wedi myned heibio, a'r chwe' mil yn passio, a'r Sabbaoth mawr ar fynydd Ararat yn agos.
Er. A geir heddwch drwy'r byd, a goleuni yn lle'r tymhestloedd a'r tywyllwch gwyntog ymma ?
Col. Cair, dros lawer o flynyddoedd.
Er. Pa fodd y profi di hynny? Onis gwnei ni byddaf bodlon i ti, mwy nag i'r gigfran, neu aderyn arall.
Col. Gwrando (O! Eryr) a deall; mi ddywedaf y gwir. Mewn chwech diwrnod y gwnaed y byd, ac ar y seithfed y gorphwyswyd, medd Moesen;[1] ac mae un dydd gyda phreswyliwr tragwyddoldeb fel mil o flynyddoedd, a mil o flynyddoedd fel un dydd, medd Pedr.[2] Deall hyn meddaf (Eryr), canys ychydig ai cenfydd nes iddo ddyfod.
Cigf. Crawcc. Beth a wna'r golomen ffôl ymma yn siarad ni ŵyr hi beth, o'th flaen di, O! Eryr boneddigaidd?
Er. Heddwch: Hi wnaeth wasanaeth i'r byd yn yr Arch. Rhaid i bob aderyn arfer ei lais.
Col. Nid da gan y gigfran monofi, er na wneuthum erioed niwed iddi.
Er. Felly nid da gan y drwg y da un amser, ond i hymlid y maent o goed i gastell.
Cigf. Ai aderyn drwg y gelwi di fi? ai hawdd yw i mi gael fy nghyfrif yn ddrwg?
Er. Fe a'th anwyd yn uffern, ac yno y mynni