gwirionedd gan y colomennod, a bydd[1] ddiddig ynot dy hunan
Cigf. Ni chlywai well llais pregethau gan y naill na'r llall.
Er. Fe fedr y golomen atteb nad oedd St. Paul ond gwr gwael yngolwg y Corinthiaid,[2] ond tuedd a dyfnder y meddwl mewn pregethwr yw'r cwbl.
Cigf. Ond pwy sydd yr awron fel yr Apostolion?
Er. Er hynny, mae'n hawdd i lygad Eryr ganfod fod yr un môr yn torri allan yr awron ac oedd y pryd hynny; ond nad yw'r ffynonnau ymma o ddwfr etto yn troi yn llynniau fel cynt, eisiau calonnau isel iw derbyn.
Cigf. O! Eryr, na chrêd mor gau prophwydi, ond cospa nhwy mewn pryd.
Er. Nid ffals brophwydi yw y rhai sy'n traethu yr efengyl, ac yn byw ar ei hol: drwg yw cenfigen; son yr oedditi am dy sir dda ar y cyrph meirwon, os cefaist, cadw os gelli. Minnau a gefais lawer o'r seigiau hynny; ond mae nhwy wedi darfod.
Cigf. Oni weli di gywion y colomennod yn ehedeg i'r pulpud i bregethu, ai plisg geni am ei pennau; Pa fodd y gall ifiengtid ddysgu henaint?
Er. Fe ddywaid y golomen i ti, fod y llange Joseph ac Elihu hefyd, yn fwy ei ddysg na'r henafgwyr.[3] A bod rhai yn ddysgedig yn ei hifiengtid, a llawer yn ynfydion yn ei henaint. Ac nad dyfnderoedd ffynnonau naturiaeth sy'n dyfrhau enaid dyn[4] , ond y cawodydd oddifry; ac na wydde Nicodemus ddyscedig beth oedd yr ail enedigaeth mwy na phlentyn cyn i eni[5], a llai na phlentyn bach wedi i eni. Di weli langc bychan yn deall mwy nag anifail mawr, ac fel bo'r dydd yn gwawrio y mae dyn yn gweled. Canys fe welai Ioan efangylwr lawer mwy ganol dydd, nag a welai Ioan fedyddiwr ar y wawr: am hynny y lleiaf yn nheyrnas Nef oedd fwy nag ef.
Cigf. Ond mae'r genhedlaeth ragrithiol ymma yn